Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dyddiau hyny ond ychydig o'r gwychder a'r bri a berthyn iddi yn awr. Fe gedwid y Cylch, ond nid oedd Arlunydd Penygarn wedi ei benodi yn Arwyddfardd i'w osod o dan reol ac wrth fesur! Pan aeth nifer o honom foreu cynta'r ŵyl yn Merthyr i chwilio am yr Orsedd yr oedd yno ryw fath o Faen Llog wedi ei baratoi ond yr oedd. Cylch y Meini heb gymaint a chareg i ddynodi ei derfyn. Rwy'n cofio yn dda yr helynt a fu i chwilio am ddeuddeg maen, ac yn cofio cystal a hyny i ni orphen y cylch gyda darn o fricsen! Ond pa waeth am hyny, yr oedd arddeliad ar y gwaith, a phe y buasem ni ond yn gwybod yr oedd yr olyniaeth Archdderwyddol am genhedlaeth gyfan yn sefyll yn y Cylch, oblegid nid yn unig yr oedd Clwydfardd yn gwasanaethu, ond yr oedd Hwfa yn cynorthwyo, a Dyfed yn "cael ei dderbyn." O'r flwyddyn hono hyd yn awr yr wyf wedi cael y fraint o fod yn bresennol yn mhob Eisteddfod Genedlaethol. a gynhaliwyd. Ryw unwaith neu ddwy yn unig y bu Hwfa yn absennol. Syrthiodd yn naturiol i le gwâg yr hybarch Glwydfardd. Llanwodd y swydd o Archdderwydd gydag urddas mawr, ac ychwanegodd yn ddirfawr at rwysg atdyniadol yr Orsedd. Gwisgai y dderwyddol wisg a ddyfeisiodd Mr. Herkomer iddo fel pe wedi ei eni iddi, a dygai bwys gwasanaeth yr Orsedd fel brenhin a fae'n falch o'i ymddiriedaeth. Dangosodd y frawdoliaeth bob teyrngarwch a ffyddlondeb iddo, a thystiodd y cyhoedd eu hoffder o hono yn y Dysteb sylweddol a gyflwynwyd iddo ar lwyfan yr Eisteddfod yn Llynlleifiad. Yn ei gartref yn y Rhyl yn 1904 y gwelwyd ef ddiweddaf yn yr wyl, erbyn 1905 yr oedd yr Orsedd yn Aber Pennar yn ngofal ei ddirprwy, Cadfan, a chyn Eisteddfod fawr Caernarfon yn 1906, yn llwyddiant yr hon y buasai yn llawenychu, yr oedd wedi ymuno a'r côr anfarwol anweledig sydd yn byw yn oes oesodd yn mywyd ein gwlad.