Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyflwynodd Hwfa ni yn garedig dros ben i'r eglwys; yr oeddym wedi gofalu am ein llythyrau aelodaeth. Rhoddodd gynghorion tadol i ni ar pa fodd i ymddwyn mewn lle dieithr, ac i fod ar ein gwyliadwriaeth rhag temtasiynau tref wyllt ac annuwiol. Anogodd yr aelodau i fod yn garedig wrthym, a gwneud sylw o honon fel dau fachgen ieuainc dieithr a dibrofiad o'r wlad. Ond yn wir prin yr oedd angen yr anogaeth, nid wyf hyd heddyw wedi gweled eglwys mor anwyl o'u gilydd, ac mor groesawus o ddieithriaid, a'r eglwys fechan hono yn hen gapel diaddurn Pentrefelin. Bu i ni yn gartref oddi cartref; a bu y gweinidog a'i briod i ni fel tad a mam. Nid oeddym ein dau ond crefyddwyr ieuanc, wedi cychwyn yn ngwres diwygiad mawr 59 a 60; ac yr oedd byw oddi cartref, ac mewn tref, yn fywyd hollol newydd i ni. Ac yr oedd cael cyfeillion caredig a gofalus fel hyn ini ar y cyfryw adeg ar ein hanes, ac yn y fath le, yn beth nas gallwn ei brisio.

Maddened y darllenydd i mi am ymdroi gyda chymaint a hyn o hunangofiant yn nghofiant Hwfa Mon, ni fuaswn yn gwneud oni bae ei fod yn rhoi mantais i mi i ddangos Hwfa fel bugail yn fy adnabyddiaeth cyntaf ag ef. Profodd ei hun i ni ein dau yn fugail yn gwir ofalu am ei braidd. Nis gallwn anghofio ei garedigrwydd, na pheidio teimlo ein rhwymedigaeth iddo. Er y byddai lawer oddi cartref y pryd hwnw, ac er fod gofal yr eglwys yn Brymbo ar ei law, eto ni byddai yn anghofio y ddiadell fechan yn Pentrefelin, yr hon oedd yn agos iawn at ei galon.

HWFA A'R YMFUDWYR AMERICANAIDD.

Tra yn paratoi at hyn o ysgrif tynwyd fy sylw gan ysgrif yn y Drych Americanaidd, a chan ei bod yn ddyddorol dros ben, ac yn rhoi golwg brydferth ar gymeriad Hwfa, ac arno yn ei gymeriad bugeiliol, cymerwn ein rhyddid i'ddodi dyfyniad o honi i mewn yn y fan hon. Y penawd yw.—ADGOFION AMI BAGILLT A HWFA MON"; Gan y Parch. J. A. Jones, Dartford, Wis.

"Pan yn morio i America yn 1851 mewn llong hwyliau o