mae yn "llai na'r lleiaf," ac yn fwy diafael na'r cyffredin. Yr oedd y dawn hwn yn gryf yn ngwrthddrych ein cofiant; trwy hyn yr oedd yn gallu llanw holl gylchau cymdeithas gyda deheurwydd neillduol ; ac yn wir ni welsom neb erioed yn fwy llawn o elfenau cymdeithas na'r gwr da hwn. Efe oedd y siaradwr lle bynag y byddai yn y lletty, Cwrdd Chwarter, y Gymmanfa, gyda gweinidogion neu leygwyr, "Williams, Aberduar," oedd yn traethu, a phawb yn dysgwyl wrtho ac yn gwrando arno.
Treuliasom lawer awr hapus yn ei gyfeillach. Yr oedd Mr. Williams yn astudio cysur cymdeithas, ac yn cymhwyso ei hunan i fod ynddi. Pan fyddai yn mhlith gweinidogion neu ddynion o safle uchel, byddai yn adrodd ystorïau am weinidogion enwog a diaconiaid gwerthfawr, megys y Parchn. T. Thomas, Aberduar; Saunders, Merthyr; Christmas Evans, &c. Yr oedd yn hynod hoff o adrodd am yr Hybarch Christmas Evans. "Pan yn ymadael â Chaerdydd, annogwyd ef gan un o Gynnadleddau y Gogledd i fyned i Gaernarfon, ac fel rheswm dros iddo fyned, dywedodd rhyw un yno fod yr annogaeth yn briodol am fod ei ddawn yn taro y lle. Beth ddywedaist ti?' gofynai yr hen wron, 'fy nawn I yn taro y lle. Nid rhyw ddawn lleol fel yna sydd genyf fi, ond dawn i'r holl fyd.' Clywsom ef lawer gwaith yn adrodd am un o hen ddiaconiaid Llanwenarth, yr hwn oedd yn uwch—Galfin mewn barn; byddai yr hen frawd yn rhoddi mwy o bwys ar adnodau ag oedd yn ymddangos iddo ef dipyn yn Galfinaidd na'r rhai Arminaidd. "Dyna adnodau