Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drugaredd neb mae trugaredd dyn yn fain iawn, ond trugaredd Duw yn llydan fel y môr." Bryd arall dywedai—"Peidiwch bod yn rhy awyddus i eistedd yn y prif gadeiriau. Byddwch yn amyneddgar, fe ddaw eich amser yn naturiol; mae ei gyfnod i bob un. Fel y byddo y brodyr da sydd yn eistedd ynddynt yn bresenol yn cael eu symmud ymaith, byddwch chwithau yn stepio y'mlaen i'w lleoedd." Yr oedd yn gyfaill i ddyn ieuanc gobeithiol, a gwnaethai lawer drosto. O'r tu arall, nid oedd un bod ffieiddiach yn ei olwg na phregethwr hunanol, yn neillduol dyn ieuanc felly; yr oedd y cyfryw yn sicr o oddef ei geryddon llym. Cof genyf, flynyddau mawr yn ol, am ddyn ieuanc wedi symmud i un o eglwysi mawrion Sir Gaerfyrddin. Yr oedd yn amlwg fod y brawd hwn o dan ddylanwad hunanoldeb i fesur helaeth; byddai ar ei eithaf yn gwthio ei hunan yn mlaen i'r prif gadeiriau. Pan wedi gorphen ciniaw mewn Cwrdd Chwarter, galwodd Mr. Williams arno trwy ddweyd, "I., y mae genyf 'stori i'w hadrodd wrthyt, gwrando dithau. Yr oedd ffermwr mawr, ar lan Teifi, yn magu tarw bob blwyddyn. Yn mhen rhyw ddwy flynedd, byddai y teirw yn myned yn wyllt (canys yr oeddynt yn cael eu porthi yn dda), ac yn tori ar draws y cloddiau i diroedd eu cymydogion, a mawr yr helynt fyddai yn eu herwydd; eithr pan elent yn rhy ddrwg, byddai y meistr yn eu saethu. Magwyd un tarw coch nice yno, yr hwn oedd hoff eidion y gwas lleiaf. Pan tua dwy flwydd oed, dyma yntau yn tori ar draws y cymydogion; ac wrth ddychwelyd, cyfarfyddodd y crwt ag ef ar yr heol