weinidog am dymhor yn Rhydybont a Chapel Nonni. Pan yn mhoethder amrafaelion mawr bedydd, dywedir i Mr. Williams roddi ffordd i wawdiaeth un boreu Sabbath, wrth fedyddio, er dangos y gwahaniaeth oedd rhwng y llawenydd oedd yn blaenori bedydd yr oes Apostolaidd i'r hyn oedd eiddo bedydd y Taenellwyr yn amser Jones, Llangollen. "Fel hyn y byddai y bobl gynt yn dweyd, 'Mae tair mil wedi eu dwysbigo ar ddydd y Pentecost.' 'Diolch am hyny,' ebai'r saint, mae gobaith am fedyddio eto!' 'Mae gwŷr a gwragedd wedi credu yn Samaria.' 'Diolch byth!' oedd yr adsain, 'ni gawn fedyddio eto.' Ond yn ol athrawiaeth Jones, Llangollen, fel hyn mae'r llawenydd yn gweithio, 'A glywsoch chwi fod Gweno, morwyn Penrhos, yn feichiog o John, Tŷ-draw?" Diolch am hyny,' ebai y brodyr taenellyddol, 'mae gobaith am fedyddio eto!' 'A glywsoch chwi fod Mary, Tŷ-bach; Eliza, Godre'r-waun; a Mrs. Jones, Tŷ-mawr, yn y ffordd gyffredin? Diolch am hyny,' ebai'r taenellwyr, 'llawenhawn! y mae gobaith am fedyddio eto."" Medrai arfer gwawdiaeth gyda rhwyddineb mawr, eto nid bywyd rhyfelgar oedd ei hoff awyrgylch: canys mab tangnefedd ydoedd yn naturiol.
FEL CRISTION.
Ar ryw olwg gellir cymeryd Mr. Williams yn ddyn ysgafn, cellweirus. Yr oedd y dawn hwnw, cofier, yn hollol naturiol iddo, ac felly yn fwy esgusodol wrth ei arfer; efallai ei fod yn rhoddi y ffrwyn iddo ormodol ar rai prydiau. Yr oedd gan ein brawd