Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byddai bob amser yn ymarfer yr ymadrodd hwnw, "Felly y darllenwyd rhan o air yr Arglwydd." Nid ydym yn cofio i ni sylwi ar neb erioed yn ymdrin â'r pethau dwyfol gyda mwy o wyleidd-dra.

Iawn ac Aberth ein Gwaredwr oedd unig sail ei obaith am iachawdwriaeth ei enaid. Llawer gwaith y clywsom ef yn dweyd, "Os cedwir fi, bydd hyny yn hollol trwy waed y groes." —Yr oedd y dyn mawr yn llai na'r lleiaf o'r holl saint yn ei brofiad a'i deimlad mewn perthynas i'w gadwedigaeth.

Yr oedd llawer o rhinweddau Cristionogol yn blaguro yn nghymeriad cyhoeddus ein hoffus frawd. Yr oedd yn ddyn gonest yn ei fasnach; nid oedd neb ar lan Teifi yn meddu mwy o ymddiried, ac nid oes hanes iddo wneyd tro isel—wael â neb yn y cyfeiriad hwn. Yr oedd yn ddyn geirwir; pan fyddai yn rhoddi ei dystiolaeth dros neu yn erbyn unrhyw beth, cawsai ei gredu gan dylawd a chyfoethog.

Heblaw, yr oedd yn ddiweniaeth; ni wnai ganmol heb fod gwir deilyngdod; a phan gaffai rhyw beth o werth mewn unrhyw gyfeiriad, byddai yn barod i roddi canmoliaeth, ac yr oedd yn fwy parod i wneyd hyny yn nghefn dyn na'i wyneb. Ei ddull cyffredin o ganmol fyddai a ganlyn:—" Fe bregethaist yn dda iawn, ac yr wyf fi yn ddigon o judge; ond paid a balchio, fe bregethodd llawer yn dda o dy flaen, ac fe bregetha llawer yn dda ar dy ol."