Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

COFIANT
RICHARD JONES.

Pennod I.

HELYNTION BOREUDDYDD EI FYWYD.

Y MAE enw Richard Jones, Llwyngwril, bron mor adnabyddus yn Nghymru ag ydoedd enw Samuel y proffwyd yn Israel. Ac os braint i'w gymydogion ydyw bod enw y pentref crybwylledig mor gyhoeddas ag ydyw ei enw yntau, iddo efyn benaf y maent yn ddyledus am hyny.

Ei rieni oeddynt John a Gaynor William, yn byw mewn tyddyn a elwid Tŷ Du, yn gyfagos i bentref Llwyngwril, yr hwn sydd ar làn y môr ynghyffiniau deheuol sir Feirionydd. Yr oeddynt o ran eu hamgylchiadau bydol yn lled gysurus fel amaethwyr cyffredin. Yr oedd ganddynt amryw blant heblaw gwrthddrych ein cofiant presenol. Ychydig o fanteision dysgeidiaeth oedd y pryd hwnw yn y gymydogaeth na'r wlad oddi amgylch, ac nid llawer o gymwysderau oedd mewn ambell un a gymerai arno fod yn ysgolfeistr i lenwi ei swydd; ac mae'n dra thebygol mai ychydig o rïeni a edrychent ar ddysgeidiaeth i'w plant ond fel peth diwerth a diangen rhaid. Fodd bynag, cafodd Richard Jones gyfranogi o'r manteision oedd o fewn ei gyraedd ef, o'r fath ag oeddynt, a'r cwbl a ddysgodd efe oedd darllen yr iaith Gymraeg. Am rifo ac ysgrifenu, ymddengys na