amlaf y bwytäai ei luniaeth; ac yno y gwelid yn y naill gwr, gelfi a defnyddiau y gryddiaeth, ac yn y cwr arall tua'r aelwyd, y gwelid y ford, yr hon a ddaliai y dorth a'r ymenyn, a hen lyfrau, gyda chymysg o lwch nid ychydig. Dilynodd ei alwedigaeth am rai blynyddau; teithiai i ffeiriau a gynelid yn. Harlech Ffestiniog, Dinas Mowddwy, Bala, ac amryw fanau ereill, i werthu esgidiau ond yr oedd ei waith yn ddiarhebol wael, obiegid dattodai ei bwythau mewn llai o amser nac у buasai ef yn ei gwneuthur. Mae'n gôf gan ysgrifenydd y cofiant hwn i'w dad gael pâr ganddo ef, y rhai ni pharasant ond ychydig ddyddiau. Clywodd hefyd wraig yn ddiweddar yn crybwyll ei bod hi yn cofio Richard Jones o Lwyngwril yn dyfod a phâr o esgidiau newyddion iddi hi pan oedd yn eneth fechan, ac i'w thad ei hanfon y boreu hwnw i gyrchu y ceffylau o'r ffrîdd fel y cychwynai y teulu ' i sasiwn y Bala. Hi a aeth ar redeg yn yr esgidiau newyddion trwy y gwlith; ac erbyn iddi ddychwelyd i'r tŷ, yr oedd ei thraed drwy yr esgidiau newyddion! Ni fynegir hyn gydag un gradd o ddannodiaeth, ond er mwyn rhoddi ychydig engreifftiau o'i anfedrus. swydd a'i aflerwch, er dangos nas medrai wneuthur dim fel dyn arall yn gyffredin, er ceisio ei oreu. Chwanegir un eto. Pan oedd efe gyda'r Milisia, gwelid nad oedd Richard yn hollawl fel dyn arall. Pan oeddid yn addysgu y milwyr newyddion hyn i drin eu harfau, a'r hyn a berthynai i'w swydd, ym ddangosai ef yn fwy anfedrus yn hyny na'r cyffredin. Dygwyddodd iddynt un diwrnod ddyfod i'w gymydogaeth i dderbyn yr addysgiad hwn, yn enwedig i drin y gwn. Wedi iddynt osod marc i annelu ato, wele daeth tro Richard Jones i gynnyg. Crynai drwyddo wrth
Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/13
Gwedd