Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pen. II

EI DDONIAU A'I LAFUR CYN IDDO DDECHREU PREGETHU.

Cyn y gwnelom sylwadau arno ef fel teithiwr, efallai y byddai yn fwy priodol sylwi arno o ran ei ddoniau yn nghyda'i lafur a'i helyntion yn ardaloedd Llwyngwril cyn iddo droi allan fel pregethwr teithiol. Yr oedd yn dra nodedig yn mawredd ei gof, cyflymdra a threiddgarwch ei ddeall, a helaethrwydd ei wybodaeth, yr hon a gyrhaeddodd trwy ei ddiwydrwydd mewn darllen, myfyrio, ymresymu, a holi.

Mae cof cryf yn gyneddf fanteisiol ragorol i'r neb a fo'n awyddus i ystorio gwybodaeth. Gwelir y gyneddf hon yn dra nerthol gan lawer nad ydynt wedi eu cynnysgaeddu ond â deall bychan mewn cymhariaeth. Mynych y canfyddir dynion yn enwog mewn cyflymder i ddeall ac i dreiddio i ddyfnderoedd gwybodaeth, ac eto yn dra egwan o ran eu côf, ac o herwydd hyny llafuriant dan radd o anfantais, gan y bydd raid iddynt golli amser i edrych dros destynau eu hymchwiliad drachefn a thrachefn. Ond yr oedd Richard Jones nid yn unig yn gryf ac yn gyflym ei amgyffrediadau, ond yr oedd ef yn ddiarhebol o ran cryfder ei gof. Yr oedd son am gof Dic Tŷ Du trwy yr ardaloedd, a hyny yn mhell cyn bod son am dano ef fel pregethwr. Dywedai yr hen Robert Roberts, Tyddyn-y-felin, Llanuwchlyn, mewn ymddyddan â rhai o'i gymydogion yn nghylch pregethwyr mawr, pe cawsid tri pheth i gyd ymgyfarfod yn yr un dyn, sef gwybodaeth Thomas Davies, côf Dic Tŷ Du, a thafod William Cwmheisian, y buasai hwnw yn sicr o fod y mwyaf yn y byd, a bron yn fwy na dyn. Gan fod ei syched a'i ddiwyd-