Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

draed yn hwyr i ddarllen, ac ni ofalai pa bryd yr elai efe i'w wely; a dweyd y gwir i gyd, ni ofalai gymaint ychwaith pa bryd y cyfodai o bono, oblegid ni buasai'r hen frawd erioed yn enwog fel boreu-godwr. Rhai o'i brif awdwyr oeddynt Watts a Doddridge, (Dodricth, fel y dywedai yntau.) Yr oedd yn hoff iawn o hymnau y ddau hyn; yr oedd y rhan fwyaf o hymnau Watts yn ei gôf. Darllenai lawer ar Ddechreuad a Chynnydd Crefydd yn yr Enaid, gan Doddridge: Gurnal ar y Cristion mewn Cyflawn Arfogaeth. Crybwyllai yn fynych ddrychfeddyliau yr hen Gurnal wrth ymdrin â phrofiadau y saint yn y cyfeillachau eglwysig. Galwad Difrifol Roberts o Lanbrynmair oedd un o'i brif lyfrau. Yr oedd hwnw i'w gael bob amser, naill ai yn llaw'r Hen Lanc, neu ar y fainc weithio yn nghanol celfi y gryddiaeth. Y mae'r olygfa a gafodd yr ysgrifenydd arno oddeutu tair blynedd ar ddeg ar hugain yn ol, yn ymrithio y mynyd hwn ger bron ei feddwl. Dyma fo yn ei hen arffedog ledr, a'r llyfr glâs yn ei law , a'r bibell yn ei ben, ac â'i fys bach yn chwalu y lludw o honi yn gawod am ben y cwbl, a'i weithdy yn mygu fel odyn. "Dyma fo'n widdionedd i," ebe efe, gan chwerthin o fodd ei galon uwchben y pwnc yn y llyfr glâs, "mae o'n deyd yn dda aflawen, ydi'n widdionedd i; mi dyffeia nhw byth i ateb hwn." Yn meddiant pwy bynag y mae y llyfr hwnw, efe a genfydd arwyddion bod darllen nid ychydig wedi bod arno. Yr oedd Henry hefyd mewn bri mawr ganddo ef, ac yr oedd ganddo gryn feddwl o Esboniad Phillips ar y Testament Newydd, er yr achwynai yn dost arno weithiau am na buasai yr hen Ddoctor wedi bod yn fanylach ar rai pethau. "Mae gan ydd hen Phil ethboniad ar ambell adnod," ebe efe, "gwell na chan