Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bwddw allan gythreuliaid ond trwy Beelthab, penaeth y cythreuliaid," efe a ddeallodd fod rhai yn y gynnulleidfa yn gwawdwenu. Aeth yn mlaen drachefn hyd at y 27 adnod, pan welai ei hun yn y brofedigaeth eto; dechreuodd ei darllen dan ryw led-besychu—Ac oth trwy—ac oth trwy—"Yma lled-besychai fel pe buasai am gael ei beiriannau llafar yn eithaf clîr i seinio y gair nesaf yn ddigon croyw a nerthol, bob llythyren o hono hefyd, a chynhygiai drachefn,—Ac oth trwy Beelthab—gwenai y bobl y tro hwn yn fwy nac o'r blaen. "Dwy i" eb efe," ddim yn hidio llawedd am enwi y gŵdd yma." Yna efe a aeth yn mlaen yn galonog. Ond os nad oedd efe yn gampus am ddarllen, edryched pawb ati pan elai i esbonio, oblegyd buan iawn yr annghofid ei ffaeleddau yn darllen, gan eglurdeb a gwerth ei esboniad ar Air Duw. Pwy bynag ni byddai yno yn nechreuad y cyfarfod, byddai yn dra sicr o fod yn go ledwr, canys yr oedd cymaint o adeiladaeth yn fynych i'w gael yn ei esboniad ef ar yr hyn a ddarllenai, ac a geid yn ei bregeth. Ar ol myned drwy hyn, rhoddai benill allan. Ac os dygwyddai na byddai y canwr yno yn brydlawn at ei waith, hwyliai ef y mesur ei hunan. Ar ol diweddiad y mawl, "Yddwan," meddai, " ni awn ychydig at Wrandawwdd gweddi." Gweddiai yn ddifrifol, cynnwysfawr, gwresog, ac yn fyr-eiriog. Byddai ganddo ryw fater neillduol bob amser ynddi, a byddai yn hynod yn ei sylw o ryw amgylchiadau a fyddai yn fwy pwysig na chyffredin yn ngoruchwyliaethau Duw at y byd a'r eglwys. Byddai ei deimlad weithiau yn ei orchfygu. Ar ol hyn rhoddai benill drachefn, a phan y gorphenid ei ddatganu, eisteddai pawb gan ddisgwyl elywed y testun. Hysbysai a darllenaf, gan ddangos