Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd o." Ond yn awr y gwir yw fod ei angau gerllaw.

Ni chafodd ond byr gystudd, yr hyn ydoedd yn fraint fawr iddo. Awgrymasai ychydig amser cyn hyn fod awr ei ymddattodiad ef yn agosâu. Pan fynegwyd iddo fod ei frawd, yr hwn fu yn byw yn yr un tŷ ag ef, wedi marw, cyfododd o'i wely, ac aeth i gwr ei ystafell, gan ddywedyd yn wylofus, "Wel, wel, Guto bach, dyma di wedi mynd, dof finnau ar d'ol di dethd yn union." Gofynai ei chwaer iddo cyn iddo gael un o'i lesmeiriau marwol, " Dic bach, leiciet. ti fyw dipyn etto gyda ni?" "Dim o bwyth," eb efe. "A fyddai yn well gen 'ti farw?" " Wel y gwelo Fo'n dda," ebe yntau. Llawer a soniasai efe yn ei fywyd wrth eraill am weinidogaeth angeu, a gwerthfawredd crefydd erbyn myned iddi; dyma ef ei hun yn awr ar fîn yr afon heb arswydo ei chenllif. Ië, yr hwn a deithiasai ddwy filldir o gwmpas yn hytrach na chroesi cornant dros bontbren ganllawiog—ie, yr hwn a gwmpasai ar ei draed ugain milldir o ffordd i fyned o Abermaw i Lwyngwril, yn hytrach na chroesi yr aber gûl honó mewn bâd, gan yr arswyd oedd ynddo rhag croesi dyfroedd,—wele ef yn awr, pan yn dechreu gwlychu ei draed yn afon angeu, yn mynegu wrth ei gyfeillion, a hyny gyda sirioldeb a gwrolder, nad ofnai ef niwaid, gan y gwyddai fod ei fywyd yn " thâff " yn Nghrist cyn dyfod yno. Felly ymadawodd â'r bywyd hwn, Chwefror 18, 1853, yn 73 oed, ac aeth i mewn i lawenydd ei Arglwydd. Traddodwyd areithiau effeithiol wrth ddrws ei dŷ gan y brodyr J. Owen, Llanegryn; J. Thomas a H. Lloyd, Tywyn, i'r dorf fawr a ymgynnullasai yno, ac yna hebryngwyd a dodwyd ef i orwedd yn ei fedd hyd udganiad yr udgorn yn y dydd diweddaf.