Tudalen:Cofiant Richard Jones Llwyngwril.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

Cymerais mewn llaw y gorchwyl o gyfansoddi Cofiant Mr. Richard Jones, Llwyngwril, nid oddiar dybiaeth am danaf fy hun fy mod yn gymwysach i hyny nag eraill, ond fy mod wedi cael helaethach manteision i wybod am dano ef na nemawr o'm cyfeillion. Ac hefyd oblegid iddo ef ei hun amlygu amryw weithiau, os ystyrid y byddai rhyw gymaint o'i hanes ef yn werth i'w roddi mewn argraff, mai "Bachgen y Beddmo" oedd i wneyd hyny. Wrth ddarlunio fy hen gyfaill 'n gwahanol amgylchiadau ei fywyd o'i febyd i'w farwolaeth, bernais nad oedd bosibl rhoddi darluniad cywir o hono yn ei wir gymeriad, fel y gallai pawb a'i gwelent ef ddywedyd, 'Dyma Richard Jones, Llwyngwril', heb ei ddangos yn ei ddull priodol ei hun bron yn yr oll a wnai ac a ddywedai. Teimlais radd o anhawsder weithiau i wybod pa le i osod y llinell derfyn i'w bethau digrifol diniwaid ef, ymhlith ei rinweddau disglaer. Os aethum ambell waith yn lled helaeth yn y dysgrifiad o honynt, mae'n hawdd i'r darllenydd hynaws fy esgusodi pan y gwel fod mwy o ddiniweidrwydd ynddynt nag sydd o ddrwg moesol. Yr ydwyf yn ymwybodol mai nid awydd i wneyd gwrthddrych ein Cofiant yn destun digrifwch a gwawdagedd genyf mewn golwg, ond rhoddi darluniad cywir o hono ef fel Dyn, Cristion, a Phregethwr. Pa mor bell у mae'r amcan hwn wedi ei ennill, nid oes genyf ond gadael i'r rhai a'i hadwaenent ef farnu.

Bwriedais yn y dechreu gyfleu amryw o Bregethau