Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/253

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae'r cyfarfod hwn yn peri i ni feddwl am gyfnod yn hanes yr ardal hon, yn hanes yr eglwys hon, yn hanes gwaith crefydd yn Nyffryn Aman. yn ystod y pum mlynedd ar hugain diweddaf, ac yn peri i ni gofio am y tadau sydd wedi blaenu. Gallem enwi llawer o honynt oedd yn fyw pan ddaethom ni yma, dynion y teimlem yn sicr eu bod mewn cyfamod â Duw ar ran masnach y lle, iechyd y lle, sobrwydd y lle, moesoldeb y lle, crefydd y lle, a llwyddiant tymhorol ac ysbrydol y lle,—y tadau anfarwol ! Ond y maent wedi myned, a dichon fod Duw yn gwylio'r amser i'w cymryd ato ei Hun, a phan oedd eu hoes a'u gwaith ar ben, yn dweyd wrthynt, o un i un, "Da, was da a ffyddlon, dos i mewn oddiar y ffordd, dos o'r gwaith i'r orffwysfa." Dos o'r gofid i'r llawenydd; dos o'r pryder a'r drafferth i'r digrifwch dibryder a diddiwedd. Gwnaeth y tadau yn y lle hwn waith ardderchog, a chadwasant gyfamod Duw, a gwnaethant sicrhau tystiolaeth Jacob yn y lle, a chyfraith Duw yn yr ardal, a gorchymyn dysgu'r pethau hyn i'w plant. ac i'r oes a ddel; ac yn awr, y mae'r oes newydd wedi dod, a'r cyfamod wedi ei adnewyddu,—nid â'r tadau.

Ambell un sy'n gallu byw cyhyd a'i oes, chwaethach byw o flaen, neu y tuhwnt i'w oes. Y mae blino a llesgedd, a byddardod, a dellni yn dyfod i mewn gyda dyddiau ein blynyddoedd. Pan fydd eisiau mynd, bydd y tadau wedi blino, ac yn wir nid heb achos, wedi gweithio oes cyn geni y rhai sydd am fynd. Pan fydd eisiau codi capel, byddant yn teimlo'n rhy lesg i fynd. i'r chwarel am y meini, nac i'r mynydd am y coed. Pan fydd eisiau gwell canu, bydd eu clustiau wedi trymhau gormod i glywed swn tyner miwsig y dyfodol. Pan fydd goleu newydd yn torri o'r nefoedd ar ben mynydd to yr Arglwydd, bydd eu llygaid yn rhy bwl i'w ganfod gyda'r blaenaf, ond gan fod yn rhaid i'r pethau hyn fod, ac i'r gwaith hyn ddod, a bod yn rhaid yn ol y cytundeb i'r gwaith fynd yn ei flaen, mae Duw yn gorfod dweyd, nid â'r tadau y gwnaethum y cyfamod hwn, ond â chwi, y plant. Rhaid i ni wneud. cyfamod newydd i gwrdd â'r gwaith newydd, a hollti ffordd trwy ganol y rhwystrau a cherdded rhyngddynt. Hollti'r aberthau wnai ein tadau wrth wneud y cyfamod, a cherdded rhwng y darnau. To i drwy ganol y rhwystrau raid i ni, a cherdded ymlaen rhwng y darnau, ond bydd y presenoldeb dwyfol yn cerdded gyda ni, a phan fydd hi'n dywyll, bydd fel lamp danllyd yn goleuo'r ffordd ymlaen!

Fel y dywedasom, yr oedd y cyfamod i ddatblygu o dan yr hen oruchwyliaeth. o oes i oes, ac o genhedlaeth i genhedlaeth. Yr oedd i ddatblygu o fod yn beth argraffedig ar garreg, i fod wedi ei argraffu at y galon. O fod yn beth allanol, i fod yn beth mewnol, yr un yn ei natur, ond yn datblygu o hyd, nes bod yr hen gyfamod i'r hen genedl yn gyfamod newydd i Israel newydd. Rhaid i ni deimlo'r cyfrifoldeb, a chlywed llais Duw yn siarad â ni. Rhaid i ni deimlo cyfrifoldeb ein hoes ein hunain, a'n dyledswyddau ein hunain, a'n hetifeddiaeth ein hunain. Y mae tai a thiroedd, ac aur ac arian, ac enw da ein tadau yn etifeddiaeth i'r plant, ond mae elw'r cyfamod yn rhwym wrth bob rhod.1. "Dyro i mi y rhan a ddigwydd o'r da," meddai'r bachgen gynt. O'r goreu, meddai ei dad, ti gei y cyfan, y ti biau dy ran o'r etifeddiaeth, cymer hi, ond os wyt ti am ei chadw, rhaid i ti beidio bod yn fab afradlon, dyna amod y cadw, cofia di.