Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Dod mâs heb un alwad," chwedl yntau, wnaeth ef, ond chwareuai yn ei atgof hyd yn oed ar hynny," Credais un waith fy mod yn mynd i gael galwad! Yr oeddwn yn pregethu mewn eglwys wag yn Sir Benfro, ac yn aros gyda'r prif ddiacon! Gyrrem i'r capel mewn cerbyd. Yr oedd yno gynulleidfa urddasol ac astud, a chawsom gyfarfod hyfryd, fore Sul. Yn y cerbyd wrth fynd yn ol, gofynnai y diacon i mi, 'Beth ydych yn feddwl am ein capel a'n cynulleidfa?' Capel hardd a chynulleidfa brydferth,' meddwn innau. Cawsom gyfarfod da iawn,' meddai'r diacon, 'da iawn wir,' a minnau'n gwrando. 'Chwi wnaethoch un peth heddyw,' meddai, na wnaeth ein diweddar weinidog ni yn ei fyw'; a minnau'n gwrando, ac yn credu fy mod wedi gwneud gwyrthiau! 'Do'n wir,' meddai ef, chwi wnaethoch un peth na wnaeth ef erioed, sef dweyd rhif yr emyn yn iawn y cynnyg cyntaf bob tro!' A dyna'r man agosaf y bues i i gael galwad erioed, oedd yn y cerbyd gyda'r archddiacon hwnnw, ac yn wir, yr oedd yn gynnyg lled agos mewn man lled uchel, onid oedd?"

Nid clod i ddeall tawel, treiddgar eglwysi Cymru oedd ei ddyfod ef allan "heb alwad." Ond y mae'r ffaith iddo ef ymgadw mor siriol yn wyneb hynny, bod mor hawddgar a chynorthwyol i fyfyrwyr a gweinidogion, ac mor barod i weini i eglwysi bychain gwledig, am gydnabyddiaeth ddiddorol o fechan, ac yn fynych am ddim, yn dywedyd llawer am ei ddynoliaeth hyfryd. Ni wyddom am neb cyhoeddus, ac i'w enwi yn yr un ganrif â Watcyn Wyn am athrylith a chymhwyster, a wasanaethodd ei genedl ar dâl cyn lleied ag y gwnaeth efe. Yn ystod yr ugain neu'r deng mlynedd ar hugain a aeth heibio, ni bu neb cyhoeddus byw yn llwyrach i'w genedl nag y bu "wit y dydd a pet y Dê," chwedl Eifion Wyn. Ni allai honni ac ymwthio, ac ni fynnai er dim ddefnyddio na chyfaill na phwyllgor nac enwad i geisio cyrraedd safle na feddai hawl a chymhwyster iddo. Mor foddlon y troai adref wedi noson o wasanaeth difyr a da mewn darlith, eisteddfod, neu bregeth, gydag ond ychydig dâl yn ei logell, ond â chân yn ei ysbryd, ac atgofion peraidd o'i waith a'i "wit" yn aros ar