Y RHAGYMADRODD.
MAE rhai pethau yn y gyfrol hon y dysgwylir eglurhad arnynt. Gwelir i ni fod mor ffodus a chael cydefrydydd a chyfaill mynwesol i IEUAN GWYNEDD—un nad yw yn ail i neb yn ei adnabyddiaeth drwyadl o hono—i roddi Adolygiad arweiniol ar ei gymeriad a'i lafur, a diau y darllenir ef gyda dyddordeb mawr. Ofer, o'r ochr arall, i ni gau ein llygaid i'r ffaith y bydd gweled y Cofiant sydd yn ei ddilyn heb enw cenedlaethol cydefrydydd a chyfaill arall iddo —y Parch. T. Roberts (Scorpion)—wrtho fel ei awdwr, ac enw dinod arall yn ei le, yn siomiant gyffredinol. Buasai Cofiant IEUAN GWYNEDD gan ysgrif bin profedig ei gyfaill galluog "Scorpion," yn ddiau, yn flasusfwyd meddyliol o'r fath a garai holl edmygwyr y marw a'r byw; ond ni farnai yr Arfaeth fawr Gymru yn deilwng o'r fath wledd. Bwriadai Mr. Roberts ar y cyntaf wneyd yr oll a allai tuag at sicrhau Cofiant teilwng i'w hoff gyfaill, ond gorfododd ei ymgymeriad â chyfansoddi ei “Esboniad Cyflawn ar y Testament Newydd," a'i luaws dyledswyddau pwysig eraill, iddo roddi y bwriad hwn i fyny. Wedi ei golli ef, yn hytrach na myned i gardota o ddrws i ddrws am fywgraffydd arall, rhyfygasom geisio gwneyd y golled hon i fyny, i ryw fesur, ein hunain. Mewn dwylaw galluocach, a rhyddach o lyffetheiriau haiarnaidd masnach, gallasai y Cofiant fod yn llawer teilyngach o'i wrthddrych; ond wedi ugain mlynedd o ddysgwyl ofer wrth ei luaws cyfeillion galluog o'i enwad ef ei hun, rhy eglur oedd, oni ymgymerem ein hunain â'r gwaith llafurfawr, treulfawr, o'i gyfansoddi a'i gyhoeddi, y buasai Cymru hyd byth heb yr un Cofiant o un o'i meibion teilyngaf ac anwylaf. Os cydnabyddir hwn ryw gymaint yn well na bod heb yr un, dyna yr oll a feiddiwn ddysgwyl—dysgwyliad digon cymedrol, onide?
Gwelir yn y Cofiant gyfeiriadau at "Ddyddlyfr" a "Bywgofiant" IEUAN GWYNEDD, a dyfyniadau allan o honynt. Dechreuodd gadw Dyddlyfr o'i brofiadau crefyddol a'i lafur dirwestol, o'i ymuniad cyntaf â'r Diwygiad Dirwestol yn 1836, a pharhaodd i wneyd cofnodau ynddo, mwy neu lai cyson, am amryw flynyddau. Pan yn Athrofa Aberhonddu, dechreuodd gyfansoddi Bywgofiant (autobiography), "oddiar ddymuniad i gofnodi rhai pethau a dynasant