tystiolaethau yn eu Hadroddiadau. Gwnaethent hyn â thystiolaethau Ieuan ei hun. I derfynu y pen hwn, digona y ffeithiau hyn i brofi yn eglur mai, nid casglu ffeithiau tuag at allu ffurfio dedfryd ddilynol deg am danom fel cenedl, ond pigion o ffeithiau i gadarnhau dedfryd flaenorol eu rhagfarn Seisonig ac Eglwysig hwy eu hunain yn ein herbyn, oedd gwir amcan y Ddirprwyaeth hon.
2. annhegwch ac anghywirdeb adroddiadau y dirprwywyr am addysg cymru. Cyhudda y Dirprwywyr rieni Cymru o gyfyngu addysg eu plant i addysg grefyddol yr Ysgol Sabbothol, ac o esgeuluso yn resynus addysg gyffredin yr Ysgol Ddyddiol. Mewn atebiad i'r cyhuddiad hwn dygai Ieuan Gwynedd yn mlaen yr ystadegau canlynol i brofi cynydd nodedig nifer yr ysgoleigion yn yr Ysgolion Dyddiol y blynyddoedd diweddaf. Golyga yr ail golofn nifer yr ysgoleigion yn adeg yr ymchwiliadau a wnaed i ansawdd Addysg yn Nghymru yn y blynyddoedd a nodir, a'r drydedd golofn gyfartaledd y rhai hyny i'r boblogaeth.
O 970,000, poblogaeth Cymru, yr oedd fel hyn dros 110,000 dan addysg mewn ysgolion dyddiol. Ffaith dra addawol oedd, fod Coleg Athrawol Aberhonddu, yn ystod y tair blynedd blaenorol er ei sefydliad, wedi cyflenwi 63 o ysgolion âg athrawon, a chan y rhai hyny rhwng saith ac wyth mil dan eu haddysg. Profai hyn oll fod Cymru yn cyflymu i wneyd ei diffyg o ysgolion, ysgolfeistriaid, ac addysg gyffredinol i fyny.
Rhydd yr ystadegau canlynol i brofi cynydd mwy arbenig ein Hysgolion Sabbothol :
Dealler mai ffigyrau y "Llyfrau Gleision" ydyw y rhai am 1846–7, ac, yn ol y rhai hyny, bychan oedd cynydd ein Hysgolion Sabbothol yn y 13 mlynedd blaenorol. Ond un o ffrwythau llafur dirfawr Ieuan Gwynedd yn casglu ystadegau er gwrthbrofi Adroddiadau y Dirprwywyr oedd cael allan fod, o leiaf, 200 o Ysgolion Sabbothol Ymneillduol, yn cynwys, yn ol cyfartaledd o 99 yn mhob un, 19,800 o ysgoleigion, wedi eu gadael allan o honynt—ffaith bwysig ag oedd yn gam dybryd âg Ymneilduaeth, ac yn ergyd angeuol i gredadwyaeth yr Adroddiadau. Buasai adroddiad cyflawn, teg, o hanes Ysgolion Sabbothol Cymru er dechreuad y canrif yn ddatguddiad o gynydd moddion addysg grefyddol heb ei gymhar yn holl hanes cenedloedd y ddaear.
Ond nid yn unig yr oedd ystadegau yr ysgolion, a'r cyhuddiad o ddifaterwch y Cymry am addysg gyffredin i'w plant, fel y gwelir