mewn cyferbyniad i safon moesoldeb, ac hefyd i safon yr un llygredigaeth yn ngwlad ein cyhuddwyr. Dywedasai y "Llyfrau Gleision," fod"nifer y plant anghyfreithlawn, wrth eu cymharu â Lloegr, yn arswydlawn"—"Ordovicis," fod "wyth o bob deg o'n merched, dros 16 mlwydd oed, yn anniwair, a dideimlad i ddiweirdeb benywaidd'—a Brutus yn "Yr Haul," "fod sefyllfa moesoldeb mor isel yn mysg Ymneillduwyr Cymru, fel y buasai llawer cenedl baganaidd yn gwrido i fod yn eu cyflwr. Pa genedl dan y nef sydd mor anniwair a'r Cymry?" Dyma oedd crêd a haeriad llu o elynion am ein cenedl, ac ofnai lluaws mawr o wladgarwyr cywiraf Cymru ei hun fod yr haeriadau hyn yn rhy wir. Yr oedd yn gwestiwn anghymharol bwysig—diweirdeb ein merched; yn llawer pwysicach na meddwdod ein gwrrywiaid. Mamau cenedl oeddynt ffynonellau cyntaf ei moesoldeb, a lle y byddo y ffynonau yn lleidiog, pa fodd y bydd y ffrydiau yn glir? Heblaw hyn, croesai ugeiniau o'n merched ieuainc yr Hafren a'r Mersey bob blwyddyn i geisio am le a bywioliaeth. Pe credai y Saeson y cyhuddiad hwn am oedynt, pa deulu Seisonig parchus a gymerai un o ferched Cymru byth i'w gwasanaeth? Pa ryfedd fod holl gyfansoddiadau Ieuan Gwynedd y cyfeiriasom atynt yn amlygu yr ymdeimlad llwyraf o bwysigrwydd y cyhuddiad hwn! Ymgymerodd â'i wrthbrofi yn yr unig lwybr a allasai roddi terfyn teg a bythol ar bob dadl—trwy ffeithiau a ffigyrau Adroddiadau awdurdodedig y Llywodraeth ei hun ar ansawdd gwahanol ranau y deyrnas gyda golwg ar y pwnc hwn. I un yn ei gyflwr cystuddiol a phrofedigaethus ef ar y pryd, yr oedd casglu yr holl ystadegau anghenrheidiol i wrthbrofi haeriadau y "Llyfrau Gleision" yn llafur mawr; ond yn llaw y Cymro penderfynol, diorphwys, gwladgarol Ieuan Gwynedd yr oedd yr ysgrifbin, ac nid oedd unrhyw orchest waith na byddai raid iddo ei anturio, tra y byddai yn y bysedd meinion a'i trinient unrhyw nerth i ysgogi.
Gan y bydd yn anmhosibl i'n darllenwyr ganfod tegwch a grym lluaws o ymresymiadau mwyaf pwysig Ieuan Gwynedd oddiwrth yr ystadegau a gasglasai, heb gael y rhai hyny i gyfeirio atynt, rhoddir y rhai mwyaf hanfodol o honynt yma. Cyfansoddodd Ieuan y Tablau canlynol allan o Adroddiad y Cofrestrydd Cyffredinol am 1842. Yn yr Adroddiadau hyny rhenid Lloegr a Chymru i 11 Dosbarth. Ffurfiai Cymru, yn cynwys Sir Fynwy, un dosbarth, yr hwn a ddosrenid drachefn i 24 o Adranau. Dengys y Tabl I. gyfartaledd y genedigaethau anghyfreithlawn yn 24 adran y Dywysogaeth—y golofn gyntaf, gyfanswm y genedigaethau; yr ail, nifer y rhai anghyfreithlawn; a'r drydedd, gyfartaledd yr olaf i'r blaenaf wrth y cant.