Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un pryd yn ysgrifenu i bapyrau a chyhoeddiadau Seisonig, a'r rhan fwyaf o honynt a ysgrifenodd ar wely cystudd, mewn doluriau ac arteithiau dwysion. Bu am amser yn rhodio megys rhwng bywyd ac angeu, yn beunyddiol ddysgwyl am ei ymadawiad. Er hyny nid allai ei gystudd trymaf ei atal i ysgrifenu a chyfansoddi, ac yn y diwedd ehedodd ei enaid mawr i ogoniant, fel aderyn o'r fagl, ac yno y mae yn awr yn ' cofio dyddiau y tywyllwch, canys llawer fuont."

5. Y cyfaill. Mae cael cyfaill cywir a ffyddlawn yn un o'r bendithion mwyaf; ond fel y mae pob peth gwerthfawr yn brin, nid hawdd yw cael cyfaill cywir. Ychydig iawn sydd yn feddianol ar elfenau gwir gyfaill. Mae cyfeillgarwch yn beth mor brin, a chyfeillion cywir mor anaml, fel y mae cyfaill yn dyfod yn drysor gwerthfawr pan y ceir ef. "Olew ac arogldarth a lawenycha y galon; felly y gwna mwynder cyfaill trwy gynghor ffyddlawn." Yr oedd feuan yn gyfaill didwyll, y mwyaf cywir a ffyddlawn a welsom erioed. Buom ddigon yn ei gyfeillach i gael prawf o'i ddidwylledd a'i ffyddlondeb. Ni welai ddim yn ormod i'w wneyd i gyfaill mewn taro. Teimlai fod gwir gyfeillgarwch yn rhoddi yn gystal a derbyn. Yr oedd yn gyfaill pan yn agos yn gystal a phan yn mhell. Mae y cyfaill pan yn mhell yn aml yn gymydog digon diserch a diles. Ond cawsom Ieuan yn gymydog parod yn gystal a chyfaill cywir. Ni welsom ef yn cynyg cymeryd mantais annheg arnom pan oeddym yn gymydogion yn llafurio yn yr un dref. Yr oedd yn rhy onest a boneddigaidd i wneuthur dim i ddiraddio na drygu ei gyfaill mewn unrhyw fodd. Ni honai flaenoriaeth, er mai efe oedd yn yr eglwys hynaf a chryfaf. Mae rhai rhy fawr a hunanol i fod yn gyfeillion cywir nac yn gymydogion da. Fel yr offeiriad a'r Lefiad, ânt o'r tu arall heibio, heb gymeryd arnynt weled eu cymydog yn gorwedd yn archolledig. Ond lle y mae gwir fawredd, y mae yno wir gyfeill garwch. Y mwyaf o bawb yw y Cyfaill goreu. Mae y dyn gwir fawr a chrefyddol yn dangos ei hun yn gydostyngedig â'r rhai iselradd, ac yn cynorthwyo y gweiniaid. Mae eraill yn rhy eiddigeddus i fod yn gyfeillion cywir; y maent yn ofni llwyddiant eu cyfeillion, ac yn eiddigeddu. Arwydd yw hyn o feddwl bach a hunanoldeb mawr. Nid un felly oedd Ieuan. Yr oedd ef yn hollol rydd oddiwrth eiddigedd, ac yn barod i gydweithio yn gystal a chynorthwyo. Meddai ddigon o wroldeb i amddiffyn ei gyfaill yn ei absenoldeb, a'i gadw rhag brathiadau tafod yr athrodwr, yn lle ei fradychu. Byddai yn sicr o'i amddiffyn, er iddo fyned dan anfantais trwy hyny. Yr oedd yn dra hoff o gyfrinach dynion da, a dynion o ddysg a gwybodaeth, a chyfeillachu a'r cyfryw yn "felusach iddo na'r mêl, ac na dyferiad diliau mêl." Yr oedd yn ddigon rhydd a pharod i gyfeill achu a chydweithredu â dynion o wahanol enwadau. Mae genym lythyr oddiwrtho a ysgrifenodd o Lanover, Chwefror 1848, [1] yn yr

  1. Dyma yr amser yr ysgrifenodd ei atebiad i Mr. Williams, A.S., Coventry, at Arglwydd John Russell. ar Addysg yn Nghymru.