athrawiaethol. Un pen o'r dydd pregethai ddyledswyddau neu ryw wirionedd ymarferol, a'r pen arall ryw bwnc neu athrawiaeth. Gwyddom iddo draddodi rhes o bregethau ar bynciau neillduol. Fel hyn, yr oedd ei weinidogaeth yn dysgu ac yn argyhoeddi, yn athrawiaethu ac yn hyfforddi mewn cyfiawnder. Yr oedd o ran ei olygiadau yn Galfinaidd, ond nid oedd wedi llyncu uwch-Galfiniaeth ei fam. Byddai yn lled ddifyrus wrth siarad â hen bobl zelog dros burdeb yr athrawiaeth. Yr ydym yn ei gofio mewn dadl frwd â mam y Parch. J. Matthews, Castellnedd. Pwnc y ddadl oedd etholedigaeth gras, a'r lle oedd tŷ y Parch. M. Ellis, Mynyddislwyn, a'r achlysur oedd i Mrs. Matthews gyfeirio at y myfyrwyr, eu bod yn ddibrofiad a diofal am bynciau y ffydd. Dechreuai Ieuan amddiffyn y myfyrwyr, oblegyd yr oedd y pryd hwnw yn fyfyriwr ei hun. Aeth yn ddadl ar etholedigaeth bersonol a thragwyddol, ac wrth fod Ieuan yn cymeryd arno amheu y fath etholedigaeth, taniodd yr hen chwaer dros ei hoff bwnc; dechreuodd amheu gras Ieuan, a thrin y myfyrwyr. Dygai yr ymgom difyrus hwn ei fam i'w feddwl ef, oblegyd dadleuai hithau yn zelog dros y pynciau hyn. Ofnwn nad oes i'r hen famau hyn ond ychydig o olynwyr yn Nghymru yn y dyddiau hyn. Mae yr hen dduwinyddion wedi myned, a chenedlaeth arall wedi codi yn y wlad nad yw mor adnabyddus nac mor hoff o dduwinyddiaeth a'r tadau a'r mamau yn y dyddiau gynt. Traddodai Ieuan wirioneddau yr efengyl yn syml ac eglur. Yr oedd ganddo bethau mawrion, ond gallai drin y pethau hyny yn eglur. Nid arwydd o fawredd yw bod yn dywyll. Meddyliau bychain sydd yn "tywyllu cynghor â geiriau heb wybodaeth." Rhaid bod yn syml ac eglur i fod yn effeithiol. Nodweddid ei weinidogaeth âg ysbryd yr efengyl, ac fel y dywedid am lyfr y gyfraith, ei fod wedi ei daenellu â gwaed," ar y Groes y sylfaenai yntau ei athrawiaeth; oddiyno y tynai ei apeliadau mwyaf nerthol at gydwybodau ei wrandawyr. Ei amcan mawr oedd gwella pechaduriaid, trwy eu "dychwelyd at Fugail ac Esgob eu heneidiau."
3. Y Dirwestwr. Yr oedd Ieuan Gwynedd yn hynod am ei ysbryd cyhoeddus. Cai pob symudiad da gynorthwywr parod a siriol ynddo ef. Ymdrechodd lawer dros lwyrymwrthodiad trwy ysgrifenu ac areithio. Yr oedd ei galon yn y gwaith. Nid pleidiwr oer i'r achos ydoedd, ond rhoddai ei holl ddylanwad drosto. Credai fod dirwest yn foddion effeithiol i sobri y meddwon, a chadw y sobr rhag myned yn feddwon. Edrychai ar feddwdod fel prif bechod y genedl, ac un a roddai fywyd i bechodau eraill, a maeth i bob llygredigaeth, y gwaethaf a'r anhawddaf ei fwrw allan o bob rhywogaeth o gythreuliaid, yn eistedd ar orsedd uwch nag unrhyw gythraul arall yn y wlad, ac yn galw am foddion cryfach a mwy eithafol i'w fwrw allan. Credai ein cyfaill fod llwyrymwrthodiad yn gosod y fwyell ar wreiddyn y pren, yn myned at lygad y ffynon. Gwnaeth ei oreu i lefeinio Tredegar âg egwyddorion sobrwydd yn ystod ei arosiad yno. Yr oedd ei ysgrifell a'i dafod a'i holl ddylanwad bob amser wrth law i wasanaethu dirwest. Ni chyfyngai