swyddfa yma i'r Brithdir. Noswaith fawr iddo ef fyddai "noswaith y DYSGEDYDD." Wrth ymddangosiad ei rifynau misol ef, ac nid wrth y lloer, y cyfrifai efe fisoedd y blynyddau hyn. "Noswaith y Dysgedydd" gallech ei weled yn darllen ar hyd y ffordd adref—yn cerdded—yn sefyll yn eistedd ar ochr y ffordd yn gwbl ddisylw o bawb a'i cyfarfyddent, wedi ei lwyr lyncu i fyny gan swynion y rhifyn newydd; ie, gallasech weithiau dybied iddo, wrth gychwyn dros "y bont fawr," ddygwydd cofio am hen "Fardd y Drindod" yn y " Marian Mawr," fel y byddai yn fynych, " yn chwerthin, siarad, neidio, a'i bwys yn llwytho'r llawr," ac yna yn ei ddynwared ar y ffordd adref. Byth ni ddysgwyliai ei fam ef adref yn gynar " noswaith y DYSGEDYDD." Byddai pigion helaeth o'r rhifyn a gludai wedi eu trosglwyddo yn ddiogel i drysorgell gref ei gof cyn y cyrhaeddai adref. Yr oedd yr "Hen Olygydd" yn nghanolddydd ei nerth y blynyddau hyn, a'r DYSGEDYDD yn tra ragori ar holl gylchgronau eraill Cymru yn amrywiaeth ei draethodau, ei hanesion crefyddol a gwladol, a'i farddoniaeth, er dyddori a symbylu ysbrydoedd ieuainc ymofyngar fel efe. Meusydd hyn y DYSGEDYDD oedd porfeydd penaf ei feddwl y pryd hwnw. Gwnaeth dylanwadau dystaw, cyson rhifynau y misolyn a gludai mor llawen, ac a ddarllenai mor awchus y nosweithiau hyny, fwy er ffurfio ei egwyddorion a'i chwaeth, er symbylu ei yni, a phenderfynu cyfeiriad gyrfa ei fywyd, nag unrhyw lyfr na pherson arall pa bynag. Yr oedd ei ddyled arbenig hon i'r DYSGEDYDD yn nghychwyniad ei yrfa yn un o'i adgofion melusaf trwy ei holl oes. Y fath allu moesol anmhrisiadwy i wlad ydyw cylchgrawn galluog a dyddorol, fel yr oedd y DYSGEDYDD y pryd hwnw !
Wedi dechreu myned i'r Ysgol Sabbothol yn y Brithdir, pan tua chwech mlwydd oed, buan yr hynododd ei hun yn mysg y plant am ei gynydd cyflym yn dysgu darllen a deall y Bibl, ac am ei allu i drysori ei bennodau yn ei gof. Mor gywir yr adroddai bennod allan, fel y gosodid ef weithiau ar ben mainc yn yr ysgol i'r dyben hwnw. Amlygai ddeheurwydd nid bychan fel disodlwr gwŷr nid anenwog yn y weinidogaeth ar faes hanesiaeth Fiblaidd. Dringai ef a'i gyfaill Edward Roberts, Tynygaer (Cwmafon yn awr), yn gyflym i fyny o ddosbarth i ddosbarth, heibio i'w holl gyfoedion, nes y cyrhaeddasant yr uchaf; a daethant cyn hir i gael eu cydnabod yn "ddoethach nâ'u hathrawon."
Am ei argraffiadau crefyddol boreuaf dywed ei hun: "Cybelled ag y gallaf gofio dechreuais feddwl yn fawr am grefydd pan tua saith mlwydd oed. Cynyddodd y meddyliau hyn hyd nes oeddwn rhwng wyth a naw mlwydd. Dechreuais yr adeg hon fyned gyda fy mam i'r gyfeillach grefyddol yn y Brithdir. Ond trwy gyfeillachu gyda phlant drygionus, ac yfed diodydd medd wol, ni pharhaodd hyn ddim yn hir. Ymdrechwn anghofio y meddyliau hyn mewn blynyddoedd dyfodol, ond nis gallwn—yr oedd yn anmhosibl. Pan nad oeddwn yn meddwl fawr am grefydd, gwagedd ac ynfydrwydd yn llanw fy mryd, eto, yr oedd meddwl am fyd arall weithiau yn boen annyoddefol—meddwl am Dragwyddoldeb bron