pregethu. Yr oedd ei dad yn y ffydd, a gweinidog eglwys y Brithdir ar y pryd, y Parch. C. Jones, yn bleidiol i hyn; ond yr oedd mwyafrif y frawdoliaeth yn benderfynol yn ei erbyn, a'r hen ddiacon synwyrlawn, penderfynol, William Richard, o'r Perthillwydion, yn arweinydd iddynt. Ni oddefasant i'w achos gael ei osod o gwbl i ystyriaeth yr eglwys. Rhyfeddu a beio dybryd a fu ar eglwys y Brithdir wedi hyn—wedi i "Evan Tycroes" ddyfod yn "IEUAN GWYNEDD." Ond yr oedd y ffaith fod yr eglwys ar yr un pryd yn teimlo mor wahanol tuag at ei gyfaill ieuanc Edward Roberts, Ty'nygaer y pryd hwnw, yn awr o Gwmafon, yr hwn a ddechreuodd bregethu y pryd hwn. Agorai ei ysbryd crefyddol, ei "ddeall da," a'i fywyd dichlynaidd ef ddrws y pulpud iddo yn y fan. Felly nid unrhyw awydd rhagfarnllyd i gadw dyn ieuanc talentog i lawr a barai i'w frodyr wrthod y pulpud i Evan Jones. Dadleuent nad oedd ond ychydig fisoedd o grefyddwr; felly yr oedd ei brofi fel pregethwr, cyn yn gyntaf ei brofi fel crefyddwr, yn afresymol; ac fod ei brofi felly yn fwy angenrheidiol am ei fod o'r blaen mor "ansafadwy fel dwfr," fel yr oedd yn dra annhebygol y deuai byth i "ragori."
Rhaid addef mai bachgen rhyfedd oedd Evan Jones y blynyddoedd a aethent heibio—un â nerth a gwendid meddyliol mawr wedi cydgyfarfod yn rhyfedd ynddo. Cyfrifid ef fel "haner pan," yn "moedro gyda llyfrau a phrydyddu"—fel "diogyn diles," un ddeuai dim byth o hono." Yn ystyr ei gymydogion o'r geiriau gyd golwg ar orchwylion cyffredin bywyd—ofer yw gwadu mai "diogyn diles" ryfeddol ydoedd. Yr oedd ei annaearoldeb hwn yn ofid dwys i'w dad, ac yn bla parhaus ar ei dymer. Pan roddai iddo ryw orchwyl i'w wneyd, pa mor groes bynag y byddai i'w chwaeth, ufuddhai Evan yn y fan. Ond rhy fynych y ceid y gorchwyl ar ei haner, pryd y dylasai fod wedi ei orphen, neu, os wedi ei orphen, y ceid ef yn waeth na phe buasai heb ei ddechreu—wedi ei hollol gamwneyd. Arferai ei dad wau. Un diwrnod rhoddai ei dad ef ar waith i yru yn mlaen â gwau darn o we tra y byddai efe oddi cartref. Eisteddai y bachgen ufudd yn y gwŷdd, ymaflai yn y wenol a'r garfan, a gwau rhyw gymaint a wnaeth. Dychwelai ei dad adref i weled yr hyn a weasai wedi ei gamwau yn resynus, fel y gorfu iddo ddadwneyd y cyfan, mewn tymer afreidiol ei darlunio. Nid hir y bu ei dad heb esboniad boddhaol—pe buasai yn foddhaol hefyd ar gyflwr anfoddhaol iawn y we. Canfyddodd yn y gwŷdd gyfrol o Esboniad Dr. Lewis, ac ar hono y llygadai y gweydd ieuanc yn lle ar ehediadau y wenol. Gyda phob gorchwyl felly byddai ei logellau yn gyffredin yn llawn o demtasiynau i'w esgeuluso. Pan y cyflawnai ryw fwnglerwaith, neu y dygwyddai iddo ryw anffawd, y man tebycaf i gael y rhesymau am y cyfan fyddai yn ei logellau ef ei hun. Pwy a feiddiai wadu nad "diogyn diles," yn ystyr pobl dda y Brithdir o'r gair, oedd bachgen o'i oed ef yn treulio ei holl oriau hamddenol oddiwrth oriau ei ysgol ddyddiol, yn darllen yn nhŷ rhyw gymydog gerllaw, neu yn mhell mewn rhyw gyfarfod dirwestol neu grefyddol yn rhywle ond gartref yn "gwneyd rhyw