unwaith sail i gredu i'w apeliadau, yn cael eu traethu mewn ysbryd difrif—ddigrif a hollol garedig, "gael effaith da ar ei wrandawyr." Teimlai ddyddordeb mawr yn Nghymdeithas Heddwch, yr hon a sefydlesid yn ddiweddar yn y Brifddinas, a diau fod y dyddordeb hwnw yn fwy o gymaint ag fod ei hysgrifenydd gwladgarol, ymroddedig, a'i phrif golofn, yn Gymro ac Ymneillduwr o'r iawn ryw—y Parch. Henry Richard, yr hwn sydd erbyn hyn wedi cyrhaedd i'r fath enwogrwydd fel yr aelod seneddol dros Ferthyr Tydfil. Dadleuodd lawer trwy y wasg wedi hyn o blaid egwyddorion y Gymdeithas bwysig hon.
Afreidiol yw dyweyd y denid ef yn fynych i feusydd swynol Barddoniaeth a Llenyddiaeth. Yr oedd barddoni mor naturiol iddo ag anadlu. Ceir amryw o gynyrchion ei awen y pryd hwn yn mysg ei Weithiau, tu dal. 23 hyd 44; ac yn flaenaf ceir blaenffrwyth ei ymgeisiau buddugol ar faes Barddoniaeth—ei bryddest ragorol ar farwolaeth Arfonwyson, am yr hon y derbyniodd ei wobr gyntaf o £5. Tra yn yr Athrofa, yn 1843, yr enillodd wobr arall o £5 am ei draethawd buddugol ar "Y rhwystr penaf i rwyddrediad a llwyddiant y Gymdeithas Ddirwestol yn y dyddiau hyn," yr hwn a welir yn tu dal. 313 o'i Weithiau Rhyddieithol. Yr oedd 21 o ymgeiswyr ar y testyn hwn. Enillodd amryw wobrwyon mewn cystadleuon ar wahanol destynau yn mysg yr efrydwyr yn yr Athrofa. Cyfansoddodd yma hefyd luaws o ddarnau barddonol Saesonaeg, galargerddi gan mwyaf am gyfeillion trancedig; un o ba rai—yr oreu yn ei farn ef—a geir yn mysg ei Weithiau Barddonol yr un am ei anwylaf gyfaill, y Parch. S. Jones, Maentwrog. Cawn ei gyfansoddiadau y pryd hwn yn y Dysgedydd a'r Drysorfa Gynulleidfaol; megys, Cofiant ei ddiweddar athraw, y Parch. C. N. Davies (Dysg., Tachwedd a Rhagfyr, 1842); Bywyd ac Amseroedd Homer (Dysg., Gorphenaf ac Awst, 1843); Pwysigrwydd Ieithyddiaeth i Weinidog yr Efengyl (Dysg., Medi a Hydref, 1843), ac eraill llai eu hyd a'u pwys yn y Dysgedydd a'r Drysorfa.
Yn mysg ei ysgrifau cawn anerchiadau a draddodasai yn yr Athrofa ar "Anghyfreithlondeb Rhyfel," "Iawnderau Masnach," "Llenyddiaeth Gymreig," &c. &c. Yr oedd yn ohebydd mynych i'r Amserau, yr hwn a gychwynesid yn Gorphenaf, 1843, dan olygiaeth y Parch. William Rees (Gwilym Hiraethog). Ni oddefai i unrhyw achos cyhoeddus o bwys, cysyllteidig â Chymru, gael ei drafod yn hir ynddo na welid ef ar y maes yn llawn brwdfrydedd o'i blaid neu yn ei erbyn. Yn nechreu yr un flwyddyn hefyd y cychwynwyd y Drysorfa Gynulleidfaol gan nifer o weinidogion blaenaf yr enwad yn y Deheudir. Ei golygydd oedd y Parch. W. Jones, Penybont, ac argreffid hi yn swyddfa y Parch. E. Griffiths, Abertawe. Teimlai ein llenor ieuane o Aberhonddu ddyddordeb dwfn ynddi, ac yr oedd yn un o'i gohebwyr a'i chefnogwyr ffyddlonaf. Ynddi hi y cyhoeddodd yr unig waith duwinyddol o unrhyw feithder a gyfansoddodd erioed. Cyfres o erthyglau ydoedd ar "Gristionogaeth" yn y gyfrol am 1845. Bwriadai hwy fel crynodeb o'r profion o wirionedd Cristionogaeth, er gwasanaeth i ieuenctyd