ac arlwywyr y "llaeth" a'r "glasdwr" pregethwrol ydyw Cynnulleidfaoliaeth a'i gweinidogaeth sefydlog. Llawer cyfaddasach i dlodion eneidiol felly ydyw cyfundrefn grwydrol y Methodistiaid, oblegyd, ar bob cyfrif, goreu po fwyaf symudol y byddo newynwyr eneidiau. Ni raid ond cyfeirio at y canoedd o blant ysbrydol cryfion a fagodd yr Hen Weinidog yn y dref a'r amgylchoedd hyn yn ystod 47 mlynedd ei weinidogaeth, fel cynifer o brofion mor "iachus" a chryfhaol oedd y bwyd ysbrydol a arlwyai efe iddynt. Ond cam dybryd âg ef fyddai priodoli ei lwyddiant nodedig fel gweinidog sefydlog yn unig, nac yn wir yn benaf, i'r rhan bregethwrol o'i lafur. Rhaid priodoli cyfran helaeth o'i lwyddiant i'w gymeriad personol uchel ac i'w lafur bugeiliol—ei garedigrwydd, ei gallineb, a'i ffyddlondeb yn ymwneuthur yn bob peth i bawb." Fel y sylwasom yn ein nodiad arno yn ei Gofiant, "Ymddangosai Mr. Jones a'i lwyddiant nodedig fel gweinidog i ni er's blynyddau lawer yn ffaith bwysig yn hanes y Weinidogaeth Gristionogol a'r gyfundrefn Annibynol yn Nghymru. Ystyrir capel enwad arall yn y dref hon, ei fod ar y Sabbothau ac ar achlysuron eraill yn ystod 47 mlynedd gweinidogaeth Mr. Jones yma, yn mwynhau "hufen gweinidogaeth bregethwrol Cymru. Dyma weinidog unigol, tawel, anymhongar capel yr Annibynwyr yma, ar y llaw arall, a'i ddoniau ei hun, na fynasai efe ei hun na neb arall eu cymharu â doniau John Elias, John Evans, New Inn, Ebenezer Morris, John Jones, Talysarn, a chawri pregethwrol eraill, eto yn offeryn i godi eglwysi yn y dref a'r amgylchoedd sydd bron yn gyfartal yn nifer eu haelodau i eglwysi yr enwad breintiedig arall o fewn yr un cylch. Y mae hon, meddwn, yn ffaith bwysig a hynod—yn ffaith sydd yn llefaru yn uchel iawn, yn anwrthwynebol, o blaid y rhan sefydlog, fugeiliol, o'r gyfundrefn Annibynol." Mor gyflawn ydoedd yr holl ddyn, fel yr oedd ynddo rywbeth a allai pob oed, pob dosbarth o feddyliau ac o sefyllfaoedd, a phob enwad o Gristionogion, ei garu neu ei barchu. Yr oedd o ran ei egwyddorion eglwysig o'r sect fanylaf o Annibynwyr, ac eto mor gatholig ei ysbryd a phe na buasai ond un "Eglwys Lân Gatholig" o Gristionogion trwy yr holl fyd. Pleidiai yn wastad yr elfen gydymgynghorol o Henaduriaeth, pob cyd—drefniad a chydweithrediad mewn cynadleddau, fel yn anhebgorol i lwyddiant unrhyw symudiad eang crefyddol neu wladol; ond gwrthdystiai yn eiddigeddus yn erbyn yr elfen gynrychiol, pob awdurdod deddfwrol, ynddynt, fel yn gwbl anghyson âg egwyddor wirfoddol Cristionogaeth, ac â rhyddid yr eglwysi.
Fel golygydd y DYSGEDYDD, cafodd y Cyfundeb Annibynol a Chymru oll achos i lawenychu am ei etholiad ef i'r swydd hono. Enillodd ei gymeriad uchel holl brif weinidogion yr Enwad yn ohebwyr cyson iddo. Gwelid delw meddwl cynwysfawr ei Olygydd yn amrywiaeth sylweddol ei gynwysiad. Ceid ynddo ryw arlwy i bob dosbarth ac i bob chwaeth, i'r myfyrgar a'r gweithgar, i'r duwinydd a'r gwladgarwr. Croniclai a phleidiai yn wresog bob symudiad cyhoeddus tuag at oleuo a moesoli y teulu dynol trwy y byd. Yr oedd y DYSGEDYDD yn wladgarwr trwyadl.