gall, hawddgar, a duwiol nodedig ydoedd. Priodwyd ni gan Mr Jones, Minsterley, yn Marton. Pan briodasom yr oedd mewn iechyd da, ac yn gref a heinif, fel y mae merched ieuainc sydd yn byw yn y wlad yn arferol o fod. Buom fyw un mis ar ddeg yn ddedwydd iawn. Yn ystod yr amser hwn ganwyd i ni fab bychan. Yn mhen pum' wythnos, ar ol nychdod blin, bu farw ein baban. Ganwyd ef Medi y 15fed, a bu farw Hydref yr 22ain. Yr oeddwn yn afiach y pryd hwnw, ac yn dechreu methu gyda'r weinidogaeth a thra yr oeddwn i yn glaf yn y gwely daeth hithau yno, byth i gyfodi mwy! Bu farw nos Sabbath, y 25ain o Ebrill, 1847, yn 27 a haner mlwydd oed. Hebryngwyd hi i'r bedd y Gwener canlynol gan dyrfa fawr, ac y mae yn awr yn gorwedd gyda'r baban mewn beddgell dlos yn addoldŷ Saron, i aros yr adgyfodiad gwell.' Melus fyddo ei hun! ac ar fore y deffroad mawr cyfoded hi a'i hanwylyd bychan yn fwy ysblenydd na'r wawr; a bydded i minau gael cydfyw â hwy,
'heb deimlo loes
Marwolaeth drwy anfarwol oes.'
Ar ol hyn aeth fy iechyd yn ddrwg iawn. Torodd llestr gwaed yn fy mynwes yn mhen pymthegnos ar ol yr angladd. Dygodd hyn fi bron i'r bedd."
Ymroddodd y gweinidog newydd i'w lafur gweinidogaethol gyda'r cydwybodolrwydd a'r dyfalwch a nodweddent bobpeth a wnelai. Cynyddodd y gynulleidfa yn Saron; ychwanegwyd at yr eglwys; dychwelodd llawer o afradloniaid yn ol adref i dŷ eu Tad. Ychwanegwyd pump o ddiaconiaid i ofalu am amgylchiadau yr achos. Yr oedd llawer o aelodau cyfrifol yn yr eglwys nad oeddynt yn cydolygu âg ef ar y pwnc o lwyrymwrthodiad â'r diodydd meddwol, ac ar rai pynciau eraill; ond mor uchel oedd syniad pawb am gymeriad crefyddol eu gweinidog, ac am gywirdeb ei amcanion, beth bynag am ei farn, yn yr oll a wnelai, fel yr oedd unfrydedd nodedig yn yr holl eglwys o'i blaid. Yr oedd argyhoeddiadau ei feddwl yn rhy ddyfnion ar bob pwnc o bwys byth i allu eu haberthu er mwyn enill poblogrwydd cymdeithasol. Amlygai y dosbarth mwyaf darllengar a deallus o wŷr ieuainc y gynulleidfa ymlyniad arbenig wrtho, a chynaliai gyfarfodydd gyda hwynt i'w hyfforddi yn egwyddorion a llwybrau crefydd. Fel un oedd ei hun "wedi ei amgylchu â gwendid," dangosai gydymdeimlad a gofal mawr am y cleifion a'r tlodion, ac un o'i ymdrechion cyntaf fel gweinidog oedd sefydlu trysorfa arbenig i gyfarfod â'u hangenion hwy. Fel y gallesid tybied mewn gweinidog mor ieuanc ac anmhrofiadol, ac mor ddwfn ei argyhoeddiadau, yr oedd yn ddysgyblwr lled lym ar droseddwyr cyhoeddus yr eglwys, a dygai ei lymder hwn ef weithiau i wrthdarawiadau anghysurus. Fel yr ymddadblygai y "ddoethineb sydd oddiuchod" ynddo, ymddangosai y "pur" a'r "diduedd" a'r "diragrith" yn amlycach i lygaid y cyffredin na'r "heddychlawn a'r "boneddigaidd" a'r "hawdd ei drin." Na feddylier ei fod yn ddiystyr o'r rhinweddau olaf hyn. Ond nid "heddwch" y cyfrifai