Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"The mother of Risiart Ddu, unlike her husband, was lacking in will power. She was one of those whom the apostle speaks of as being 'through fear of death all their lifetime subject to bondage.' She was a woman of many fears; and it was ofn y mor as she termed it, that led her to frustrate the family plans, by delaying their coming over to the home provided for them on this side the sea. But she was a good mother, and never meant to stand in the way of her children's advancement. A little lacking in foresight perhaps, and her horror of the sea over- whelmed her; but she meant well all the time."

The following obituary is from the "Drych," written by her son John:—

"Edwards—Ebrill 10, 1884, yn Rosendale, Wis., wedi pedair wythnos o gystudd, Mrs. Mary Edwards, gweddw Hugh Edwards, a mam Risiart Ddu o Wynedd. Ganwyd hi yn Llechryd, Llanefydd, Medi 8, 1803. Cawsai addysg dda; yn gyntaf yn ysgolion Dinbych, a thrachefn yn Caerlleon. Priododd pan tua 22 oed. Ymfudodd i America yn 1864. Yr oedd yn helaeth mewn serch, cof, a deall; ond yn ddiffygiol mewn pwyll a barn; ac i hyn y rhaid priodoli y rhan fwyaf o'i helbulon yn y byd. Mewn gwybodaeth ysgrythyrol yr oedd yn un o'r cedyrn; mewn ffydd yn un o'r rhai bychain hyn. Pan yn eneth trysorodd lawer o'r Beibl yn ei chof, yr hyn fu o gysur dirfawr iddi yn ei henaint. Ond er mor gydnabyddus â'r Gair, nid oedd mor barod a llawer un i weled ei ystyr, a thynu allan y cysur sydd ynddo. Un achos o hyn oedd ei hofnusrwydd naturiol. Cwynai yn ei llesgedd nad oedd atebiad i'w chri, heb ystyried, fe ddichon, fod yr Arglwydd yn llefaru o'r cwmwl yn gystal ag o'r goleuni. Tua blwyddyn yn ol dywedodd fod ei