Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ef oedd yn New York, yn dyfod i'r wlad hon, a'i wyneb ar Wisconsin. Yr oeddwn i y pryd hwnw mewn store gyda Thomas Everett, nai i'r Parch, R. Everett, Steuben, ac yr oedd ef a Mr. Everett yn ffrindiau yn Nghymru. Deallais ei fod wedi ei anfon gan ei dad i'r dyben o brynu fferm. Y tro cyntaf y gwelais ef wedi hyny oedd yn Rosendale yn 1855, ac yr oedd ef erbyn hyn yn byw ar ei fferm, a chwaer iddo (Louisa) yn cadw ty, boneddiges ieuanc ac anwyl iawn, ac yn aelod yn Soar. Gefais i fy ordeinio yn Soar, Ebrill 24, 1856, a byddai ef a'i chwaer yn dyfod i'r capel yn fynych ar y Sabbathau, er fod pum milldir o ffordd ganddynt i ddyfod. Bu y chwaer anwyl hono farwMedi 21,1856; ond parhâi Mr. Edwards i ddyfod yn ei dro i'r cwrdd deg, ac arosai yn aml i'r Ysgol Sul am ddau, ac yr oedd yn un rhagorol iawn yn y dosbarth. Byddai weithiau yn dyfod gyda ni i ginio, ac yr oedd yn hyfryd genyf bob amser gael ei gyfeillach, canys yr oedd bob amser yn adeiladol. Llyfrau a dysgeidiaeth oedd yn llanw ei feddwl. Yr oedd yn hoff iawn o waith Dr. Hall; darllenai hwnw gyda blas; ac yr oedd yn gyfoethog mewn gwybodaeth gyffredinol. Treuliodd ei oes i gasglu gwybodaeth.

Yn mhen rhyw gymaint o amser, daeth ei anwyl rieni, brawd a dwy chwaer, drosodd—oll yn aelodau crefyddol. * * * Ychydig cyn i mi symud oddi-yno i Dodgeville, daeth y bardd-bregethwr Rhisiart Ddu o Wynedd atynt. Mae yn gof genyf y Sabbath cyntaf y daeth i Soar. Yr oeddwn wedi dechreu y gwasanaeth cyn iddynt ddyfod, ac ni wybum ei fod ef yno nes i'r gwasanaeth fyned heibio. O! fel yr oeddwn yn teimlo dros fy anwybodaeth; ond 'doedd mor help, felly y bu, a phe buaswn yn gwybod, ni chawswn ganddo wneyd dim, oblegid yr oedd ei fam gydag ef yn ei wylio rhag gwneyd dim yn gyhoeddus, am fod ei iechyd mor wan. Aethum ni oddiyno yn Ebrill, 1868, bu yntau farw Mawrth yr 8fed, 1870. Rhisiart Ddu o Wynedd oedd ddyn ieuanc anwyl ac addawol iawn. Gwelais un o'i gadeiriau barddonol, y rhai a enillodd mewn Eisteddfodau yn Nghymru.