Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XI.

MR. HUMPHREYS FEL GWEDDIWR.

GELLID meddwl ei fod yn bwngc gan Mr. Humphreys i beidio a gwario ei ddifrifwch gyda phethau dibwys yn ogystal a gochelyd ysgafnder gyda phethau cysegredig. Y mae rhai dynion yn ddifrifol gyda phob peth, ac eraill yn gwneyd y cwbl mewn dull ysgafn a chellweirus. Cofus genyf glywed am un brawd—yr hwn nad oedd ganddo ond yr un pwyslais i'w roddi ar bob peth—yn dyweyd yn yn nghlywedigaeth Mr. Humphreys, "Y mae yr eglwys acw wedi colli dau o'i blaenoriaid; aeth un i fyw i L——n, a'r llall i dragwyddoldeb;" a thrwy nad oedd yn gwneyd dim gwahaniaeth rhwng y ddwy daith, dywedai Humphreys, "Y mae cryn wahaniaeth rhwng y ddau symudiad yna, John." Os ydyw y darllenydd wedi ein dilyn gyda'i hanes hyd yma, y mae wedi deall ei fod yn llawn o ddigrifwch naturiol; ond er hyny, ni welsom neb erioed a golwg mwy defosiynol arno pan yn ymwneyd a phethau cysegredig crefydd, na Mr. Humphreys o'r Dyffryn. Cynyrchai yr olwg addolgar fyddai arno ddifrifwch mawr bob amser y gweinyddai y sacramentau― Bedydd a Swper yr Arglwydd. Arferai ddyweyd wrth y cymunwyr am iddynt fod mewn agwedd briodol wrth dderbyn yr elfenau tynu eu menyg, estyn eu llaw ddehau, a gwneyd ffordd i'r gweinidog i fyned heibio iddynt; ac ychwanegai, nas gallai ef addoli a dillad ei gyd-greaduriaid o dan ei draed, a bod addoli yn beth nice iawn. Byddai yn gyffelyb wrth fedyddio; cynyrchai barchedig ofn yn mynwesau y gynulleidfa wrth ddefnyddio enwau y Drindod Sanctaidd. Dywedai wrth fedyddio yn debyg i hyn, " Y mae rhieni y bychan hwn yn chwenych ei alw yn ——a galwer ef felly, ac nid wrth yr un enw arall. Yr wyf fi, gan hyny, yn bedyddio —— yn enw y Tad, y Mab, a'r Yspryd Glân; a'r Duw hwn sydd yn Dad, Mab, ac Yspryd, a fyddo yn Dduw i'r bychan hwn; eglwys