Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i weini arno; a thra yr oedd un yn datod ei gôt fawr, yr oedd y llall yn dad-fotymu ei overalls; ac ar ol iddo eistedd dywedais: "Y mae y cyfeillion hyn yn ymddangos yn hynod o'r caredig i chwi, Mr. Humphreys." "Ydynt," ebe yntau, "fel hyn y maent er pan wyf yn y gymmydogaeth, a byddaf yn gofyn i mi fy hunan weithiau, am ba hyd y bydd i'w caredigrwydd barhau." Ond nid oedd un perygl iddo ddarfod, gan fod y ddau yn cael y fath fwynhad yn ei groesawu. Byddai yn hynod siriol gyda hwy. Dywedai un tro wrth ysgwyd llaw â hwynt,

"A wyddoch chwi am ba beth yr oeddwn yn meddwl wrth ddyfod yma heddyw?"

"Na wyddom ni, Syr," ebai y gŵr.

"Wel, meddwl pa un oreu ydyw Dafydd i Mari, ai Mari i Dafydd."

Yna gofynodd, "Sut mae eich temper heddyw, Mari bach?"

"Gwelais hi yn well lawer gwaith," ebe Dafydd.

"Dim anair am Mair i mi,"

ebe yntau.

Os byddai yn gweled gan David Rowlands amser, gofynai iddo weithiau ddarllen cyfran o ryw lyfr iddo; ac un tro fe ddarllenodd ei gyfaill bregeth o'r "Pregethwr"' o waith Mr. Humphreys ei hunan iddo, ond heb ei hysbysu o hyny. "Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu," oedd y testyn, ac ar ol ei darllen gofynodd,

"Wel, beth ydych yn ei feddwl o honi, Mr. Humphreys?"

Wel," ebe yntau, "y mae yn dyweyd pethau digon tebyg i'r hyn a fuaswn yn eu dywedyd fy hunan am lywodraeth y Duw mawr."

Nodweddid ei wythnosau olaf gan ddifrifwch, tynerwch, a nawseiddi-dra yspryd. Yr oedd rhywbeth tra neillduol yn ei bregethau olaf, er nad oeddynt yn cael eu traddodi yn y dull rhwydd a phert yr arferai efe gynt; ond er hyny yr oedd yno ryw eneiniad oedd yn gwneyd i fyny am bob diffyg. Y mae y Parch. Joseph Thomas, Carno, yn yr adgofion a gawsom ganddo am dano, yn dyweyd fel hyn: Clywais ef yn pregethu mewn Cyfarfod Misol yn Llanfaircaereinion, a hyny yn lled agos i ddiwedd ei oes, gyda llewyrch anarferol. Ei destyn ydoedd, Ceisiwch yr