Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/164

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dyn am y ffordd i fod yn ddedwydd; ond ni buasai neb wedi ei gweled, oni buasai i Dduw ei dadguddio. Ni bu neb mor amcanus ac mor lwcus a dyfod o hyd iddi, ond darfu i Dduw ei dadguddio, ac erbyn iddi ddyfod i'r golwg y mae yn ymddangos yn hynod o ogoneddus. Yr oedd Paul yn ei gwel'd yn glir iawn, ac yr oedd yn ei chanmol yn rhyfedd, ac yn cyfrif pobpeth yn dom ac yn golled yn ei hymyl—yr oedd ardderchowgrwydd gwybodaeth Crist Iesu ei Arglwydd wedi peri iddo fod yn barod i'w golledu ei hun mewn pobpeth er ei mwyn. Mae dynolryw wedi bod yn synu yn rhyfeddol wrth edrych ar weithredoedd Duw. Yr oedd un yn dychymygu fel hyn, a'r llall fel arall, am y system yr ydym ni yn trigo mewn rhan o honi; o'r diwedd, deuwyd o hyd i drefn y rhod yn y system yma yn lled gywir—tybiwyf eu bod yn agos i fod yn gywir—ac erbyn i'r gwirionedd ddyfod i'r golwg, yr oedd yn annhraethol gysonach ynddi ei hunan na'r un meddwl fu gan ddyn erioed am dani, a hyny am y rheswm ei fod wedi dyfod i feddwl yn debyg fel yr oedd Duw wedi gwneyd y machine mawr.

Mae ei feddyliau Ef yn uwch na'n meddyliau ni am natur drwg a da a rhinwedd a bai. Ychydig a wyddom ni am ddrwg a da. Medrwn ddyweyd y gair a'i gyfeirio at un ei fod yn ddrwg, ac at un arall ei fod yn dda; ond nid oes genym ni ond amgyffred anmherffaith am y naill na'r llall. Ychydig a wyddom ni am y pethau hyn, ond y mae y Duw sydd yn y nefoedd yn adwaen natur drwg a da yn drylwyr; y mae Efe yn gweled eu hegwyddorion, ac yn gweled drwg yn ei holl adgasrwydd. Gwel ddrwg yn ei ddrygedd a'i ganlyniadau i ddynion ac angelion drwg. Ni ŵyr Cain a Judas fawr am ddrwg pechod eto. Y maent yn uffern, ac y mae gwae ar ben y dyn fradychodd yr Arglwydd Iesu, "mai gwell fuasai iddo ef pe nas ganesid ef;" ond nid ŵyr y ddau fawr am ddrwg pechod : ond y mae Duw yn gwybod am ei ddrwg a'i ganlyniadau i dragwyddoldeb. Mae y Duw yma wedi ei wahardd i ti yn ei ddeddf lân y mae hono yn gwahardd drwg i gyd. Meddwl Duw am ddrwg yn ei berthynas a'i greaduriaid rhesymol ydyw, ei fod yn beth i'w wahardd iddynt, oddiar y duedd sydd ynddo i'w gwneyd yn dragwyddol druenus, ac yn wrthddrychau casineb yr Hollalluog.

Y mae ei feddyliau yn uwch na'n meddyliau ni am ei fod yn adwaen yr hyn sydd dda hefyd. Gŵyr Duw yn berffaith