Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/195

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y genhedlaeth hono: yr ydym yn disgwyl fod yr amser i drugarhau bron a dyfod. Bod yn ddifater am fod yn gadwedig ydyw y bai mawr. Gwyliwch esgeuluso, ond derbyniwch yr efengyl, onide bydd y Duw mawr wedi digio wrthych yn y fath fodd, na chymoda â chwi i dragwyddoldeb.[1]

  1. Ysgrifenwyd gan Mr. HUGH JONES, Dolgellau, wrth ei gwrandaw.