Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/201

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nad oes arno eisieu ychwaneg, ac am nas gall ddymuno mwy. "Holl lafur dyn sy dros ei enau: eto ni ddiwellir ei enaid ef â dim a welo." Traffertha dyn yn y fuchedd hon—y mae blinder arno wrth ymgyrhaedd am wrthddrychau ei ddymuniadau; ond yn y nefoedd, bydd y saint wedi eu diwallu yn berffaith o'u holl eisieu, ac wedi cael cymaint nas gallant ddymuno mwy. Dywedant, pan welant Iesu fel y mae, a phan byddant gwbl debyg iddo, "Wele, digon yw." "Mi a lanwaf eu trysorau."[1]

  1. Gwel y "Geiniogwerth," Hydref, 1850.