Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/218

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PREGETH IX.

MOLIANU YR ARGLWYDD.

"O na folianent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion.—SALM Cvii. 8.

DAIONI Duw yw y peth hwnw yn ei natur sydd yn ei dueddu i gyrchu yn wastadol yn mhob goruchwyliaeth at ddaioni a dedwyddwch ei greaduriaid. Y mae daioni diderfyn yn natur y Duw mawr: nid yw yn hoffi cystuddio a blino plant dynion. Mor fawr yw daioni Duw, fel nad oes un creadur yn bod a'r nad yw yn neu wedi profi ei ddaioni. Feallai nad oes un creadur yn bod nad yw yn profi daioni Duw ond y rhai sydd wedi ei abusiowedi camddefnyddio ei ddaioni;—rhai felly yw y rhai sydd yn uffern; nid oes un drugaredd yno; ac ni fydd yno ddim croesaw i tithau os ei yno. Ond y mae y byd yma yn llawn iawn o ddaioni Duw. Yma, beth bynag, ei "drugaredd" sydd i'w gweled " ar ei holl weithredoedd." Y mae ymwared o gyfyngderau yma; a'r amser hwnw y gwelir daioni Duw werthfawrocaf. Y mae ymborth a dillad yn annghyffredin werthfawr; ond hwyrach nad ydym ni yn eu teimlo mor werthfawr; pe byddai i newyn a noethni ein cyfarfod, gwelem werth annghyffredin ynddynt yr amser hwnw. Un o feiau dynolryw yw eu bod heb weled hyny. Nid oes eithriad i ddaioni Duw yn yr ystyr hyn. Er ei fod yn ceryddu, nid yw efe yn peidio a bod yn Dad da er hyny; ac er ei fod yn barnu, nid yw hyny yn rhwystro iddo fod yn Llywodraethwr da. Nid yw Duw yn peidio a bod yn Dduw da, er ei fod yn cospi yr annuwiol yn uffern. Nid wyf yn dyweyd mai lles yr annuwiol yw ei gospi yn uffern; eto nid oes modd peidio. Y mae pechod mor ddrwg fel y mae yn fit i'w gospi; ac nid oes gan y Duw da ddim lle gwell i yru yr annuwiol ar ol marw nag i uffern. Y mae yr annuwiol yn gorfod cartrefu yn uffern ar ol marw; pe cai ef rodio yn y byd yma, 'does wybod pa ddrwg a wnai efe; ond ar ol iddo