Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/224

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nghyffelybiaeth cnawd pechadurus." Nid cnawd pechadurus oedd, ac nid cyffelybiaeth cnawd, ond cyffelybiaeth, neu yn debyg i gnawd pechadurus. Yr oedd pechaduriaid yn bur anmhlygedig ac anhawdd eu trin; ond fe ddaeth er hyny, "Ac am bechod, a gondemniodd bechod yn y cnawd." Y mae daioni Duw yn ymddangos yn y fan hon gyda digyffelyb ogoniant yn anfoniad ei Fab i'r byd i ddyoddef trosom. Pa fodd y mae yr Arglwydd yn gorchfygu calon galed y pechadur? Yn gymhwys fel y gorchymynir i ninau, "Na orchfyger di gan ddrygioni, ond gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni." Felly Duw, nid ellir ei orchfygu gan ddrygioni. Beth a wna ynte? Gorchfyga galon galed pechadur trwy rym goludoedd daioni yr efengyl. Bydd gwaith gras Duw i'w ryfeddu yn dragwyddol. Y mae person y Cyfryngwr yn rhoi rhyw gyfleusderau i weled mwy o'r Duwdod, fel y mae yn Gyfryngwr, na phe buasai heb fod felly. Y mae y daioni hwn o bwrpas i ddynolryw. Y mae yn amheus genyf a oes greadur rhesymol îs yn ei greadigaeth na dyn. Braidd na feddyliwn nad yw yr angelion i gyd yn uwch na dyn. Ond mi wn hyn, fe anfonodd Duw ei Fab atom ni, "Canys ni chymerodd efe naturiaeth angelion: eithr hâd Abraham a gymerodd efe." Y mae yma oludoedd digyffelyb o ddaioni yn cael ei ddangos i blant dynion. Byddai yn dda genyf pe gallwn argraffu ar eich meddwl rwymau pob dyn i Dduw, fel y mae efe yn Dduw da. Pe yr adnabyddem ni Dduw yn iawn, byddai yn anhawdd ryfeddol i ni beidio ei barchu. Ni wn pa fodd y gallech lai na'i garu pe cymererch y darluniad a roddir yn yr Ysgrythyr o hono—Anfeidrol ddaioni. Peidiwch a meddwl ei fod ef yn dal dig. Llywodraeth anfeidrol dirion yw llywodraeth y Jehofah. Eto nid oes dim mwy ei berygl na syrthio i ddwylaw Duw. Y mae perygl abusio daioni Duw. Y mae Duw yn darpar ar dy gyfer bob moment, yn darpar ar dy gyfer fel ei greadur. Duw a'th gadwodd, ac a'th ddyogelodd hyd heddyw, a Duw a ddarparodd drefn i'th gadw trwy ras. Gochel ei ddiystyru. Y mae i ddirmygu doniau rhagluniaeth Duw ryw gonsequences mawr. Os dirmygi ddaioni Duw iachawdwriaeth, beth ddaw o honot. Mae ei ddaioni ef yn siwr o gario argraff arnat ar ol myned oddiyma. Os yn uffern y byddi, byddi yn siwr o gofio dy fod di wedi mwynhau daioni Duw, "Ha