Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/228

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

apostol, "fod pob peth yn cydweithio er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw." Nid yn unig eu caru gan Dduw, ond y rhai sydd yn caru Duw. "Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni." Nid ydyw cariad Duw at ddyn ddim wedi cael ei neges gyda dyn nes enill y dyn i garu Duw yn ol. Y mae yma ddarpariaeth fawr, a hono wedi ei darparu ar gyfer y rhai sydd yn caru Duw. "Ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarparodd Duw i'r rhai a'i carant ef." Y mae yn arfer gyffredin genym ddyweyd ein bod wedi gweled llawer ychwaneg nag a gawn, a chlywed llawer mwy nag a allem gofio; ond am bob cristion, ni welodd gymaint o ryfeddodau gras ac o ddaioni trugaredd ag a gaiff weled. Y mae mwy yn nghadw i'r rhai a'i hofnant ef nag y mae neb o'r saint wedi ei weled yn y fuchedd hon, "Ni welodd llygad," &c.

Sylwn ar NATUR Y CARIAD HWN—a'r ARWYDDION O HONO —ac ar Y BENDITHION ANNGHYDMAROL A'R GWERTH SYDD YN GYSYLLTIEDIG AG EF.

NATUR Y CARIAD HWN. Pa beth ydyw caru Duw.

Yn un peth, debygem ei fod yn gynwysedig mewn rhyw oruchel barchedigaeth iddo, mewn ein bod yn bowio i'r Hollalluog am fod enw a charictor y Duw mawr wedi enill parchedigaeth ein calon nes ei addoli. Y mae parch, gan mwyaf, tra y byddo at ein huwchradd neu ein cydradd, yn sylfaenedig ar gariad. Gellir parchu, y mae yn wir, heb garu, a gallai nad aiff y parch yma byth yn gariad o herwydd nad oes un gymdeithas. Ond deliwch sylw, nis gallwch garu Duw heb barch i Dduw. Nid oes modd i wraig garu ei gŵr yn iawn heb barchu ei gŵr, nac i'r gŵr garu ei wraig yn iawn heb barchu ei wraig. Nid oes modd i'r naill frawd crefyddol garu y llall heb fod ganddo barch iddo. Gellwch garu plentyn a gelyn heb eu parchu, ond y mae cariad at gydradd ac uwchradd yn wastad yn sylfaenedig ar barchedigaeth; ac os mynwch chwi, wŷr a a gwragedd, ymddwyn tuag at eich gilydd yn ol cyfraith cariad, peidiwch a gwneyd na dyweyd dim a ddarostynga eich parchedigaeth, o herwydd nis gellir parchu bob peth. Gellir parchu rhai o herwydd rhyw ellir parchu gwallau neb. Ond y mae gynwysedig mewn graddau o barch i'r Jehofah mawr. Bydded fod genym ras fel y