Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ionydd ar ysgwyddau Mr. Humphreys, a hyny yn bur naturiol. Feallai nad ellid ei ystyried ef yn ddiwygiwr mawr, gan belled ag y mae dwyn allan gynlluniau newyddion yn perthyn i ddiwygiwr: nid oedd ganddo flas ar wneuthur rheolau a deddfau newyddion. Braidd na thybiwn mai goruchwyliaeth debyg i oruchwyliaeth y Barnwyr a fuasai yn fwyaf cydweddol ag ansawdd ei feddwl ef—eistedd mewn barn ar bob achos fel y digwyddai. Byddai yn arfer dyweyd fod llawer yn gwneyd deddfau o bwrpas i'w tori. Ond os nad oedd yn ddiwygiwr mawr, yr oedd yn weithiwr heb ei ail, ac yn gwir ofalu am bob peth yr achos gartref a thrwy y sir; a byddai yn un o'r rhai blaenaf i gefnogi pob ysgogiad a farnai efe a thuedd ynddo i lesoli y "deyrnas nad yw o'r byd hwn."

Bu o wasanaeth mawr gydag adeiladu ac adgyweirio capelau y sir. Trwy ei fod mor fedrus gyda saernïaeth coed a cherig, ac yn ymbleseru cymaint yn y gwaith, byddai y cyfeillion yn mhob cymydogaeth yn galw am ei gyngor a'i gyfarwyddyd pan yn bwriadu adeiladu neu adgyweirio eu capelau. Efe fyddai yn eu planio, yn eu gosod, ac yn edrych am eu dygiad yn mlaen. Nid oedd yr un "Bezaleel i ddychymygu cywreinrwydd" ar gapelau y Methodistiaid, yn y dyddiau hyny. Ni ddarfu i ni erioed ddeall y byddai Mr. Humphreys yn arfer tynu plan ar bapyr o'r un adeilad, ond dywedai wrth y gweithwyr, fel y dywedodd yr Arglwydd wrth Noah, am wneyd yr Arch, Gwna i ti Arch o goed Gopher," &c.; felly y byddai Mr. Humphreys yn dyweyd wrth y gweithwyr, "Gwnewch i mi Gapel o gerig ithfaen; ac fel hyn y gwnewch ef: deugain cufydd fydd hŷd y Capel, a deg cufydd ar hugain o led, a deg-ar-hugain ei uchder; gwnewch ffenestri arno, a gorphenwch hwynt yn bedwar cufydd oddiarnodd; a gosodwch ddrysau yn ystlys y Capel; o ddau uchder y gwnewch ef; gwnewch hefyd dŷ ac ystabl wrth ei dalcen." Ond er mai pur ddiseremoni y byddai efe yn myned at ei waith, byddai yn llwyddo i gael capelau mor gyfleus a dim rhai oedd i'w cael y pryd hwnw. Capel y Dyffryn oedd y cyntaf a wnaed ganddo; bu yn gweithio yn galed ar y capel hwn, o osodiad ei sylfaen hyd ei orpheniad; a phregethodd ynddo ar ddydd ei agoriad. Byddai yn hawdd. ganddo, pan yr ymwelai â'r gweithwyr fyddai yn adeiladu capel fyddai dan ei ofal, weithio am oriau gyda hwynt.