Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddynion y mae y tir yn tyfu yn ddrain a mieri, ac y mae y stock heb fod o lawer yn llawn; ac nid oes ganddo arian fel y gallo wneyd tegwch â'r tir; a phe byddai ganddo arian, ni byddai yn debyg o wneuthur y goreu o honynt." Gwrandawai y boneddwr yn bur ddifrifol ar y 'stori, a dywedai, "Y mae yn ddrwg iawn genyf glywed—yn ddrwg dros ben genyf.,". Ond,' ," meddai y ffarmwr, y mae tyddyn y dyn hwn yn gyfleus i mi, gan ei fod yn derfyn yn nherfyn â'r tyddyn lle yr wyf fi yn byw, teimlwn yn dra diolchgar i chwi, syr, am eich ewyllys da, os byddwch cystal a'i osod i mi, gan ei bod mor amlwg na wna y tenant presenol ddefnydd o hono." "Y mae yn ddrwg genyf dros y dyn gwan," ebai Mr. Fychan," ond yn gymaint na wna fe ddim o hono, ond gadael iddo dyfu yn ddrain a mieri, ti a'i cei, gwna y goreu o hono." Aeth y ffarmwr adref, ac yn lled foreu dranoeth daeth y gymydogaeth yn hysbys fod tyddyn y dyn gwan wedi ei osod i'w gymydog, a theimlai aml un yn bryderus rhag y byddai llawer o'r fath bethau yn dygwydd. Modd bynag, daeth i glustiau y dyn, druan, fod Mr. Fychan wedi gosod ei dyddyn i'w gymydog nesaf, a than grynu ac ofni aeth at ei feistr tir, a dywedodd "ei fod wedi clywed ei fod wedi gosod y tyddyn lle yr oedd ef yn byw i'w gymydog." "Ti a glywaist y gwir," ebai y meistr, "yr wyf wedi ei osod. Onid oedd dy gymydog yn dyweyd nad oeddit yn trin mohono, ond yn gadael iddo dyfu yn anialwch, ac nad oedd genyt ddim modd i'w drin, ac nad oedd genyt ddigon o anifeiliaid arno, a pha beth a wnei di â thir felly?" A'r dyn, truan a llwfr, a atebodd, "Nid yw fy stock ond ysgafn, ac y mae fy arian yn brin hefyd; ond ar yr un pryd, yr wyf wedi talu am dano hyd yma, buaswn yn ymdrechu i dalu eto pe cawswn y ffafr o gael aros ynddo." "Wel," ebai Mr. Fychan, "y mae yn rhy ddiweddar bellach, yr wyf wedi ei osod, ac ni byddaf un amser yn tori fy ngair." Ar hyn, torodd y gŵr i wylo yn hidl, a dywedodd nas gwyddai pa beth i'w wneyd, fod ganddo lawer o blant, a'r rhai hyny heb eu magu, ac nad oedd ond dyn egwan i enill bara iddynt wrth weithio; yr oedd y dagrau yn treiglo ar hyd ei fochau llwydion i'r llawr wrth ddywedyd hyn. Erbyn hyn, yr oedd Mr. Fychan yn teimlo, a dywedai wrtho, "Paid a thori dy galon, mi osoda ei dir yntau i tithau; fe ddywed dy gymydog ei fod ef wedi trin ei dyddyn yn bur dda, trinia dithau ef goreu y galloch ti, fel y gallych fagu dy blant bach yn symol cysurus." Felly fe aeth hwn adref, ac a ddywedodd ei hanes, sef ei fod ef a'i gymydog yn cael ffeirio dau dyddyn. "Y mae fy meistr newydd wedi gosod fy nhyddyn i i'm cymydog, a thyddyn fy nghymydog i minau." Nid hir y bu y trachwantus heb glywed fod ei dyddyn wedi ei osod i'w gymydog gwan; ac ni feddyliodd naws am gymeryd ei dyddyn ei hunan. Ond fel y ci a'r asgwrn cig yn y chwedl, yr hwn, wrth weled ei dremwedd yn y dŵr, a ollyngodd yr asgwrn oedd mewn gafael, er mwyn cael gafael ar y cysgod oedd yn y dwfr; felly yntau, wrth drachwantu tyddyn ei gymydog, fe gollodd ei dyddyn ei hunan. Ond pa fodd bynag, aeth at Mr. Fychan a gofynodd ai gwir oedd ei fod wedi gosod ei dyddyn ef i'w gymydog? "Ie," ebai Mr. Fychan, "digon gwir, oni osodais ei dyddyn yntau i tithau? Pa fath ddyn oeddit ti pan gymerit dŷ a thyddyn dyn gwan uwch ei ben, a'i dwr plant heb eu magu; dyna i ti le ffres, ceibia a chornbridda faint a