Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Nid oes arnoch fwy o eisieu y diodydd meddwol, mwy nag sydd ar geiliogwydd eisieu umbrella.'

Cwynai unwaith am fod mor anhawdd cael gan ddynion gredu am y diodydd meddwol yn wahanol i'r hyn oeddynt wedi arfer gredu am danynt; ac i egluro hyn, adroddodd am hen ŵr oedd yn masnachu mewn hosanau. Byddai yn cymeryd y baich hosanau ar ei gefn ei hun, ac yna fe âi yntau ar gefn y mul; ac nid allai neb ei berswadio nad efe oedd yn cario yr hosanau, a'r mul yn ei gario yntau. Ond pe buasai yr hen ŵr yn deall, y mul, druan, oedd yn cario y ddau; ac esmwythach o lawer iddo ef fuasai iddo roddi yr hosanau oddiar ei gefn ei hunan, ac ni buasai ond yr un peth i'r mul.

"Mae rhai, wrth weled ychydig o'r rhai a fu yn ddirwestwyr wedi troi yn ol at eu chwantau, yn dyweyd fod pawb wedi myned, a bod dirwest wedi darfod am dani. Y maent yn debyg i ryw hen wraig oedd yn y Dyffryn acw yn achwyn ar y barcutan; dywedai ei bod wedi dwyn ei holl gywion bach ond saith, a naw oedd eu nifer yn y dechreu. Chwareu teg i'r barcutan, nid oedd wedi cymeryd ond dau allan o naw."

"Gadewch y diodydd meddwol yma, fy mhobol i, oblegyd y maent yn llawer rhy ddrudion. Y maent yn rhy ddrudion o ran eu defnyddiau—o ran yr amser a gymerir i'w hyfed—ac o ran eu heffeithiau yn y byd hwn, a'r hwn a ddaw."

Byddai yn bur hawdd gan Mr. Humphreys pan yn areithio ar ddirwest ddyweyd gair yn erbyn y Tobacco a'r Snuff. Ond ni byddai yn hyn yn myned mor eithafol a rhai o'i frodyr. Byddai yn arfer dyweyd "Mai tri o blant annghyfreithlon y mae natur yn ei fagu, sef Cwrw, Tobacco, a Snuff; ac fe wyr pawb mai pethau pur ddrudion i'w cadw ydyw plant felly."

Byddai yn dra gochelgar wrth gynghori y bobl ieuainge i beidio ymwneyd âg ef, rhag archolli ei frodyr oedd wedi ffurfio yr arferiad.

Gofynodd blaenor parchus iddo unwaith, mewn Cyfarfod Misol, i ddyweyd gair yn erbyn Tobacco. Teimlai yntau yn anhawdd ganddo wneyd, gan fod cymaint o'i frodyr oedd yn bresenol yn ei arfer; a chyfarfu â chais y blaenor trwy ddyweyd, "Darllenais yn hanes campaign Duke of Wellington yn Yspaen, fod y ddwy fyddin yn gwersyllu heb