Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

3. Efe, y diweddar Mr. Roberts, o Lanbrynmair, a Mr. Jones, o Lanewchllyn, ydoedd y rhai mwyaf adeiladol a buddiol yn eu cwmniaeth a welais ac a gefais y fraint o'u canlyn erioed.

Tri o'r rhai mwyaf galluog, ewyllysgar, ac ymdrechgar i wneuthur daioni ar y ffordd—cael eu cwmni ydoedd megys cael college—parhaed a chynnydded yr un sydd yn fyw o'r tri.

4. Yr oedd Mr. WILLIAMS yn ysgolhaig tra chyflawn; yn berchenog ar lyfrau rhagorol, yn deall awdwyr yn hollol, ond ni chymmerai ddim o waith neb heb ei farnu a'i bwyso ei hun, rhwng ei gydwybod a gair Duw. Ond y peth mwyaf nodedig ynddo oedd ei duedd myfyrgar; y fath awdurdod oedd ganddo ar ei feddwl mawr! Myfyriai ef yn fanwl ar y materion pwysicaf ar ei geffyl, a hyny heb iddo gael ei ystyried yn un melancholaidd. Yr oedd yn ffieiddio yr ymffrost gan rai fod eu pregethwr yn felancolaidd, "Dyn o'i gof yn ddyn mawr!" meddai.

5. Yr oedd hefyd yn deall y natur ddynol yn rhagorol; ac yn neillduol amheus a drwgdybus am ddrygioni calon annuwiol—mor eiddigeddus rhag calon falch ac anniolchgar. O y fath eneinniad santaidd oedd gyda ei gynghorion a'i bregethau! Mor eglur fod llaw yr Arglwydd gyda ei bregethau! Fel pe buasai yr Ysbryd Glân wedi tywallt gras ar ei wefusau, &c.

Mor hapus y byddai yn trin trefn gras, heb arwain ei wrandawyr i benrhyddid—fel yr oedd yn deall athrawiaeth yr Iawn, yn ol llywodraeth foesol. Daliai ras Duw a dyledswydd dyn ar gyfer eu gilyddrhydd—weithrediad Duw, a rhydd—weithrediad dyn—trefn gras penarglwyddiaethol mewn cyssylltiad â chyfiawnder y llywodraeth Ddwyfol, &c., &c.

7. Mor alluog ydoedd i gymhedroli mewn cynnadledd. Yr oedd yn hynod, fel cadeirydd, am drefn a rheol, ac heb dra—awdurdodi. Yn ei holl fywyd gweinidogaethol yr oedd y fath sirioldeb a santeiddrwydd yn cyd—ymgyfarfod ynddo, ag oedd yn ei wneuthur yn ddychryn i annuwioldeb, ac yn fawl i weithredoedd da.

Llanerchymedd.E. DAVIES.

At y Parch. W. Rees.

FY ANWYL FRAWD,—Yn ol eich dymuniad, ysgrifenwyf yr ychydig linellau hyn atoch. Da genyf eich bod yn cymmeryd mewn llaw y gorchwyl o godi colofn goffadwriaethol am y diweddar Barch. W. WILLIAMS, o'r Wern. Hyderwyf y bydd yr adeilad yn deilwng o'i enw, er yn wir mai gorchest fydd gallu gwneyd cyfiawnder â bywgraffiad un ag yr "oedd ei glod mor hynod yn yr eglwysi."

Bendith, ag y pâr ei heffeithiau oesau maith yn yr eglwysi Cymreig, oedd ei roddiad i ni; a cholled y teimlir ei chanlyniadau yn hir, oedd ei gymmeryd ymaith oddiarnom. Ni allwn goffhau ei enw, heb gael