ion oedd genym i alaru eisieu fod mwy o ymdrech yn yr eglwysi i feithrin gwybodaeth, i symud beichiau eu haddoldai, ac i fagu brawdgarwch a hunan-ymwadiad, fel y gallent fod o helaethach effeithiolaeth dros achos y Gwaredwr.
Cefais unwaith yr hyfrydwch a'r budd o gyd-ymdaith ag ef drwy ranau o Ogledd Cymru gyda'r amcan o geisio ennill sylw ein cymmydogion at anghyfiawnderau y gaeth-fasnach; ac yr wyf yn cofio i mi sylwi yn neillduol ar ddau beth perthynol i'w ymddygiad yn yr amgylchiad hwnw ei ymdrech diflin, drwy ddarllen, ac ymholi, a myfyrio, i gael pob hysbysrwydd ac adnabyddiaeth cyrhaeddadwy o natur y fasnach, ac o'i heffeithiau andwyol ar deimladau ei phleidwyr, yn gystal ag ar gyflyrau y caethion; ynghyd â'i ofal manylaidd i adrodd y ffeithiau oedd ganddo i ddangos ei hechryslondeb mewn modd cysson â thegwch y gwirionedd. Ar ol craffu ar ei egni a'i ofal gyda'r ddau beth yma, nid oeddwn yn rhyfeddu cymmaint at yr effeithiau rhyfeddol, ag yr oedd bywiogrwydd ei ddull, a nerth ei ddawn, yn gael ar feddyliau ei wrandawyr.
Byddaf yn mynych ad- feddwl am yr olwg a ganfyddid yn gyffredin ar dorf fawr y gymmanfa yn ngwyneb apeliadau ei weinidogaeth—eu hastudrwydd llwyraf wedi ei ennill, a'u holl deimladau yn ufydd gydymdoddi i gymmeryd eu ffurfio yn hollol wrth ei deimlad ef.
Nid rhyfedd genyf fod yr awydd mor gryf yn mysg adnabyddwyr Mr. WILLIAMS am gael gweled ei hanes. Yr oedd yn un o'r dynion anwylaf a fagodd ein gwlad erioed; a chan iddo noswylio mor gynnar, heb adael ond ychydig iawn o ffrwyth llafur ei feddwl yn nghyrhaedd ei oloeswyr, yr wyf yn awyddus obeithio yr ymdrechir yn gydwybodol gan weinidogion ac eglwysi i wneuthur defnydd da o'r unig goffadwriaeth a gawn am Mr. WILLIAMS, o'r Wern,
Llanbrynmair, Gorph. 1, 1841.S. ROBERTS.
At y Parch. W. Rees.
ANWYL FRAWD,—Dywenydd nid bychan yw genyf eich bod wedi ymaflyd yn y gorchwyl difrifol a phwysig o gyfodi cof—golofn â phapur ac inc i'r diweddar anwyl WILLIAMS, o'r Wern. Gresynol fuasai i gymmaint o wir werth a mawredd fyned yn swrth i lwch anghof, fel yr aeth ei gorff i'r bedd. Mae y gorchwyl yr ydych wedi ymaflyd ynddo yn un anhawdd; ond cyfyd yr anhawsdra oddiar wreiddyn gwahanol i'r hwn y mae eiddo bywgraffwyr ereill yn cyfodi oddiarno. Gelwir ar ysgrifenwyr cofiantau weithiau i fod yn ddoeth i ddethol y gwerthfawr oddiwrth y gwael, gán amledd diffygion a cholliadau y gwrthddrychau. Mae eisieu mawr ddeheurwydd yn aml i godi rhinweddau teilwng o efelychiad i fynu, heb adgofio y darllenydd o'r gwendidau a'r beiau y byddai yn well i'w hanghofio, a thynu darlun gweddol deg o'r gwrth-