Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn euog, ac hynod anfoddlon iddo ei hun, o herwydd ei fod yn anedifeiriol—y Cristion a gywilyddiai ac a wridiai,am na buasai yn fwy o Gristion; a digiai pob pregethwr wrtho ei hun eisieu na buasai yn well pregethwr. Hwyrach na bu neb erioed yn fwy llwyddiannus i roddi cyffroad cyffredinol i feddyliau. Ei ddrychfeddyliau mawrion, noethion, a diaddurn, a darawent feddyliau ei frodyr yn y weinidogaeth, nes oeddynt yn tânio a gwreichioni, a byddai y gwreichion yn ymledu, a pharhant felly yn Nghymru, nes byddo pob noddfa celwydd wedi ei llwyr losgi. `

Un o'r pethau ardderchocaf mewn hen weinidogion, ydyw ystwythder i blygu gyda yr oes. Bu llawer o weinidogion enwog mewn gwybodaeth, dawn, a defnyddioldeb, pan yn ieuainc; ond ar lechwedd bywyd, ffroment ar bawb fuasai yn cynnyg un gwelliant ar eu dull hwy; safent ar y terfyn, a cheintachent â phawb elai heibio iddynt, gan ddynodi pob peth newydd yn effeithiau balchder; ond WILLIAMS a flodeuodd mewn ieuenctyd hyd ei fedd. Dywedai y tro diweddaf y gwelais ef, fod arno fwy o ofn ystyfnigrwydd, ceiutachrwydd, a diogi henaint, na dim arall. Ar ddechreuad y diwygiad Dirwestol, pan oedd brodyr ieuangach nag. ef yn gofyn, Beth yw y ddysg newydd hon? ac ereill, llai galluog i ymresymu nag ef, yn coethi yn ddibendraw am gyfreithlondeb ac ysgrythyroldeb y gyfundraeth, ymaflodd ef ynddi pan welodd ei bod yn gwared y rhai a lusgid i angeu, ac yn tueddu i achub eneidiau. Cymmerodd ef ei ran o'r gwawd a'r dirmyg cyssylltiedig â sylfaeniad y diwygiad hwn yn Nghymru, a diau ei fod yn edrych o'r nef ar ei ddygiad yn mlaen gyda difyrwch a llawenydd. Nid oedd un serch rhyngddo â hen dybiau a chredoau, ond mor bell ag y barnai hwynt yn ol y Bibl; newidiai hwynt mor rhwydd â newid ei gôt, os byddai gwirionedd yn galw. Ei ysbryd oedd mor gyhoeddus ag ysbryd Gabriel: gofalai am yr oes a ddeuai, yn gystal ag am hon; a thra y gofalai yn dadol am yr eglwysi dan ei ofal, estynai aden ei ddylanwad dros Gymru; a gallesid dywedyd am dano, fel John Wesley am dano ei hun, "Y byd oedd ei blwyf." Y tro diweddaf yr ymwelodd â'r Deau, treuliodd fythefnos dan fy nghronglwyd; a llwyr ddeallais beth feddyliai yr apostol, pan ddywedai, "Nac anghofiwch letygarwch, 'canys wrth hyny y lletyodd rai angylion." Pryd hyn yr oedd angeu wedi gosod ei law arno, a'i nodi allan i'w saethau; yr oedd fel ysgafn o ŷd, yn aeddfedu i'r cynhauaf. Gwasgarai ber-aroglau paradwys o'i gwmpas; ac er nad oedd yn alluog i bregethu, gadawodd argraffiadau ar ei ol a barodd bregethu gwell; a'r effeithiau rhyfeddol a ddilynasant hyny a barant fod ei ymdaith ef yn ein plith ar gof yn y farn a ddaw. Gan hyderu y bydd i'r Hwn sydd yn dal y saith seren yn ei ddeheulaw i godi ereill i addurno ffurfafen ei eglwys; a chan obeithio y bydd i'ch Cofiant o hono fod fel mantell Elias i gadw dau parth o'i ysbryd ar ol, a pheri i Mr. WILLIAMS o'r Wern, er. wedi marw, etto i lefaru, y gorphwysaf,

Llanelli.DAVID REES.