Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

3. Bod yn anmhosibl cymmeryd gormod o ofal, arfer gormod o hunanymwadiad er ennill y nef, a gochelyd uffern.

4. Bydded i ni feddwl llawer am y byd hwnw. Y mae tuedd rhyfeddol yn hyn i ddifrifoli y meddwl; cyn cydsynio ag un brofedigaeth i bechod, aros yn gyntaf i feddwl am fyd arall, i daflu golwg i'r nef, ac i uffern dân. Ni fyddai mor hawdd pechu pe cedwid byd arall yn y meddw).

PREG. II.-Y MAWR BERYGL O OEDI CREFYDD.

HOSEA 13, 13.-" Gofid un yn esgor a ddaw arno; mab anghall yw efe, canys ni ddylasai efe aros yn hir yn esgoreddfa y plant."

Y MAE Ephraim yn dynodi teyrnas y deg llwyth a ymwahanasant oddiwrth deulu Dafydd, yn amser Rehoboam, mab Solomon. Llwyth Ephraim oedd yr enwocaf a'r lluosocaf o'r llwythau hyny, ac yn ei randir ef yr oedd Samaria, prif ddinas y llywodraeth, ac o herwydd hyny, gelwir y wladwriaeth, neu y deyrnas yn ol ei enw ef. Ymlygrodd y deg llwyth yn ddwfn mewn eilun-addoliaeth wedi gadael teulu Dafydd, ac ymsefydlu yn freniniaeth wahanol ar eu penau eu hunain o dan Jeroboam, mab Nebat, a'i olynwyr. Gwelwyd rhai arwyddion o ddiwygiad arnynt yn awr a phryd arall, ond yr oeddynt yn "ymadaw fel y cwmwl a'r gwlith boreuol," cyn gweithio allan i lawn a thrwyadl ddychweliad. Rhagfynega y testun ddiwedd eu gyrfa o eilun-addoliaeth. "Gofid un yn esgor a ddaw arno." Y mae gofid un yn esgor yn cyfodi o'i hamgylchiadau personol ei hun, felly y byddai gofid Ephraim; gofid wedi ei dynu arno ei hunan, yn cyfodi o'i amgylchiadau ei hun-yn otid llym, yn gyfyngder, a gwasgfa fawr; felly gofid Ephraim, a phob pechadur fel Ephraim. "Mab anghall yw efe, canys ni ddylasai efe sefyll yn hir yn esgoreddfa y plant;" aros i oedi dychwelyd at ei Dduw, oddiwrth ei eilunod, wedi meddwl, bwriadu, ac addaw gwneyd hyny: oedodd, hir oedodd, nes collodd yr adeg o'r diwedd, ac y goddiweddodd barn Duw ef yn ei eilun-addoliaeth, y daeth y gofid arno; y caethgludwyd ef yn llwyr allan o'i wlad, ac ni ddychwelodd iddi mwyach, arno ef yr oedd y bai-ni ddylasai efe aros, oedi, taflu amser dychweliad yn mhellach bellach o hyd; yr oedd yn "anghall" wrth wneyd felly, yr oedd hefyd yn gwneyd peth na "ddylasai." Cymmeraf fantais oddiwrth eiriau y testun, i geisio dangos, Y mawr berygl, a'r niwed o oedi crefydd, neu ddychweliad at Dduw.

I. Y mae aros yn hir mewn cyflwr annychweledig, yn peri fod moddion dychweliad yn colli eu heffaith. Y mae pob peth yn colli ei effaith wrth hir ymarfer ag ef. Wrth fynych a hir ymarfer â'r Bibl, a gweinidogaeth yr efengyl mewn cyflwr annychweledig, y mae y meddwl yn dyfod yn gynnefin â hwy. Y mae darllen y Bibl yn myned yn fwy dieffaith bob tro; y galon yn brasâu dan bob pregeth; y gwirioneddau a fyddent yn gafael yn y gydwybod gynt, yn taro ar y teimladau, yn cyffroi ac yn effeithio y meddwl, wedi myned erbyn hyn yn llawer mwy dieffaith —y mae yr un grym a nerth yn y gwirioneddau hyny etto, y mae yr un