iaeth, a gwrthryfelgarwch ynddi, oni bai manteision y ffordd er ei hadnabod. Buasai yn anhawdd genym gredu am danom ein hunain, y buasai yn bosibl i ni fod byth mor anniolchgar ag y buom lawer gwaith, pe dywedasid wrthym pan oeddym newydd ein codi a'n cychwyn o'r hen Aifft—o'r caethwasanaeth caled ac isel, pan newydd ein codi o'r hen byllau clai, ein gwaredu o dan iau yr hen Pharao greulon; ond wrth adfeddwl am droion y daith, yr ydym yn cael mantais i adnabod ein calonau drwg.
2. Mantais i adnabod Duw. Y mae efe yn cael gwell mantais i'w ddangos ei hun i'w bobl yn y ffordd y mae efe yn eu harwain. Yr oedd gwell cyfleusderau yn ffordd yr anialwch, nâ ffordd gwlad y Philistiaid. Ni buasent yn gwybod yr hanner am eu Duw, oni buasai taith yr anialwch. Yn yr anialwch y cawsant weled y medrai efe droi y cymylau yn feusydd bara iddynt; yn yr anialwch y cawsant weled y gallai dynu dwfr o'r gallestr—gwlawio cig ac adar asgellog fel tywod y môr; yno cawsant brofi ei amynedd a'i faddeugarwch anfeidrol ef. "Yn yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd eu Duw hwynt, y deugain mlynedd hyny." Ni buasai y rhai ffyddlon a duwiol yn eu plith yn cymmeryd gwlad â llaeth a mêl am daith yr anialwch. Yno y dysgasant adnabod eu Duw—ei garu, ac ymddiried ynddo. Yn yr anialwch y clywsant ei lais yn llefaru o ganol y tân—y gwelsant ei ogoniant—y derbyniasant ei gyfraith a'i farnedigaethau—y "profasant ac y gwelsant ei weithredoedd ef." Cefaist dithau lawer mantais, Gristion, i adnabod dy Dduw, wedi dy gychwyn o'r Aifft; llawer pryd o fanna nefol a gaed wedi hyny; dwr megys o'r graig lawer gwaith yn nhir y sychdwr mawr; profi ei ddaioni yn dilyn, yn tywys, ac yn maddeu, yn ceryddu ac yn cysuro. Gwerth y nefoedd bron oedd y manteision i adnabod Duw a gaed ar y daith.
3. Mantais i rasusau y Cristion weithredu, a thrwy hyny i gynnyddu. Ysgol dda i Israel oedd yr aniaiwch i ddysgu dyoddefgarwch, profiad, amynedd, a ffydd. Yr oedd llawn fantais i'r rhinweddau hyn i weithredu yn y diffaethwch—tir y sychdwr mawr. "Fel y caffer profiad eich ffydd chwi, yr hwn sydd werthfawrusach nâ'r aur coethadwy, cydbrofer ef trwy dan." Profedigaethau y daith sydd yn galw y grasusau hyn allan i weithrediad; heb y rhai hyn ni chaent gyfle i'w dangos eu hunain. Y mae Duw yn caru eu gweled, ac yn caru i'r saint eu hunain eu gweled; ac hefyd yn caru i'r byd eu gweled—i angylion a chythreuliaid eu gweled "er mawl gogoniant ei ras ef." Wrth weithredu y maent yn cryfhau ac yn cynnyddu hefyd. Y mae pob peth bron yn cynnyddu ac yn cryfhau yn ei waith. Y mae y dyn sydd yn arfer cario beichiau trymion yn fwy galluog i hyny nâ'r dyn nad yw byth yn dwyn beichiau; Paham? O herwydd ymarferiad. Y mae fy mraich ddeau yn gryfach o lawer na'm haswy; Paham? O herwydd fy mod yn arfer mwy arni. Felly y mae pob gras yn cryfhau yn ei waith; ac y mae y fantais hon yn y ffordd hwyaf ragor y feraf: mantais i gryfhau grasusau.