Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hi; ac adnewyddu ei nerth yn hytrach yr oedd ei beswch a'i anhwyldeb yntau. Pa fodd bynag, parhaodd i fyned yn mlaen yn ei lafur gweinidogaethol, ac i dalu ymweliadau achlysurol â'i frodyr a'r eglwysi yn y Dywysogaeth, hyd ddiwedd yr hâf hwnw.

Tua diwedd Awst y flwyddyn ddywededig, dywedodd y meddyg wrtho fod yn rhaid iddo adael Llynlleifiad, a dychwelyd yn ol i Gymru, onidê, nad oedd dim gobaith y byddai efe nac Elizabeth fyw ond ychydig amser; ac mai dyna yr unig foddion tebygol i'w gwellhau. Yr oedd ei afael yn yr eglwys a'r gynnulleidfa yn y Tabernacl, yn dyn iawn; a'u gafaelion hwythau ynddo yntau yn dynach, dỳnach, bob dydd: ond yn awr, rhaid oedd iddynt ollwng eu gilydd, er mor anhawdd; gwelai ef, a gwelai yr eglwys mai dyna oedd trefn y nef, a llwybr dyledswydd; ac felly yn fuan wedi hyn, rhoddodd ofal gweinidogaethol yr eglwys i fynu, wedi tair blynedd o lafur diflin a llwyddiannus, ond hyny o attaliad a barasai y cystudd arno.

Pan ddeallasant eglwysi y Wern a'r Rhos, ei fod dan orfod i symud yn ol i Gymru, cytunasant, er eu mawr anrhydedd, i anfon gwahoddiad caredig iddo i ddychwelyd yn ol atynt i dreulio gweddill ei ddyddiau gyda'r hen braidd y buasai yn eu ffyddlon fugeilio flynyddau lawer; canys yr oeddynt heb weinidog er pan ymadawsai Mr. WILLIAMS. Derbyniodd eu gwahoddiad, daeth drosodd, a chymmerodd dŷ, y nesaf i'r hwn y buasai byw ynddo o'r blaen cyn symud i Lynlleifiad.

Nos Sabboth, Hydref 20, 1839, traddododd ei bregeth ymadawol yn Llynlleifiad, i gynnulleidfa luosog a galarus. Yr oedd, yn groes i bob dysgwyliad, yn hynod o fywiog a hwylus ei ysbryd; pregethodd yn mhell dros awr gyda rhwyddineb anghyffredin; yr oedd golwg effeithiol ar y gynnulleidfa, y dagrau yn treiglo dros y gwenau boddhaol a eisteddent ar eu gwynebau. Haws yn ddiau fyddai dychymmygu teimladau y fath gynnulleidfa ar y fath achlysur, nag a fyddai eu darlunio. Diau fod yno lawer yn ei wrando dan yr argraffiad na chaent weled ei wyneb, na chlywed ei lais, ond odid, byth wedi hyny; a buasai yn hawdd ganddynt syrthio ar ei wddf, a'i gusanu, ac wylo yn dost, o herwydd hyny, fel y gwnai yr Ephesiaid gynt wrth ymadael â Phaul.

Rhoddasom o'r blaen sylwedd ei bregeth ymadawol ag eglwysi a chynnulleidfaoedd y Wern, a'r Rhos, rhoddwn yn