iad o ddyn mawr o'r golwg hyd nes y byddai gwaith mawr, a phethau mawrion yn galw am dano. Yr oedd ei wybodaeth ëang a'i dalentau gwychion yn wastad o dan reolaeth a dysgyblaeth callineb a synwyr.
2. Tymher ei feddwl.—Yr oedd o dymher meddwl fywiog, siriol, a chymdeithasgar. Pan fyddai y cyfeillion a'r gyfeillach yn gyfryw a gyd-darawent â'i archwaeth, byddai wrth ei fodd, ac yn ei elfen, pa un bynag ai anian-ddysg, ai llywod-ddysg, ai duwinyddiaeth fyddai testun yr ymddyddan, yr oedd ganddo ef sylwadau cyfoethog o feddyliau, a ddangosent ei fod yn gyfarwydd yn egwyddorion y naill gangen a'r llall. Ond at dduwinyddiaeth yr oedd prif dueddfryd a gogwyddiad ei feddwl. Yma yr ymddangosai megys yn ei wlad, ei awyr, a'i elfen gartrefol. Ni byddai ei feddwl ffrwythlon byth yn amddifad o elfenau, a thestunau ymddyddan o'r natur yma. Dywedai, "Os nad oes gan ryw frawd arall fater i'w osod i lawr, y mae genyf fi ryw bwnc ag y buaswn yn dymuno cael ei roddi dan ystyriaeth." Byddai pob dyn o chwaeth a theimlad, yn rhwym o'i garu a gwerthfawrogi ei gymdeithas. Mewn gwirionedd, yr oedd ei gyfeillach yn anmhrisiadwy. Ni welid dim o naws uchelfrydigrwydd ynddo ef, dim i darfu na dal y meddwl draw oddiwrtho—nid ymddangosai fel yn ymwybodol o'i uwchafiaeth a'i fawreddigrwydd ei hun—dim i beri y petrusdod lleiaf yn neb i fod yn rhydd o'i feddwl yn ei bresennoldeb; ymddygai nid fel arglwydd, ond fel brawd a chydwas. Ond er na byddai efe yn cymmeryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, byddai pawb o'i frodyr yn foddlawn i'w roddi iddo. Er na byddai ar neb ei ofn, yr oedd gan bawb barch calon iddo. Er y teimlai ei frodyr ieuengach y gallent fod yn ofn a rhydd yn ei gyfeillach, teimlent hefyd eu bod yn mhresennoldeb dyn mawr, yr hyn a barai iddynt roddi iddo y parch a'r flaenoriaeth ddyledus, fel, os nad oedd ef yn awyddus am ei gael, y byddent hwy yn awyddus am ei ddangos iddo. Gallaf ddywedyd, nad ymadewais erioed o'i gyfeillach, na byddai fy meddwl yn ei garu ac yn ei werthfawrogi yn fwy nag o'r blaen; ac yr wyf yn sicr bod degau o frodyr a dystient yr un peth.
Heblaw sirioldeb a hynawsedd ei dymher, gwnai ei gyfeillach yn ddifyrus a buddfawr â chyflawnder o sylwadau bywioglawn a grymusion. Yr oedd ei feddwl megys yn ystwyth ac aeddfed i gymmeryd gafael yn mhob mater, neu destun o'r Bibl a gynnygid i sylw; a cheid rhyw beth gan-