Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

meddwl, uchelwychedd golygiadau, gwreiddioldeb drychfeddyliau, prif elfenau cyfansoddiad gwir fawredd pregethwr, "ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf."

Wrth wrando WILLIAMS yn pregethu, gallasech ei gyffelybu i delynor medrus, yr hwn, cyn dechreu chwareu ei dôn, a drinia ac a gywreina dannau ei delyn; ac wedi cael' pob tant i gywair priodol, a chwery ei fysedd ar hyd-ddynt, nes y clywid y gyd-gerdd bereiddiaf a melusaf yn dylifo megys oddirhwng ei ddwylaw. Cymmerai yntau ei destun megys y cerddor ei delyn, ac wedi pum mynud, fe allai, o gyweirio ei dannau mewn rhagymadrodd a dosbarthiad, dechreuai chwareu arnynt, gan dywallt allan y fath beroriaeth seinber, fel os byddai rhywun o'r rhai a fyddent yno yn bresennol heb ei gynhyrfu dan ei dylanwad, rhaid ei fod wedi cau ei glustiau, fel y neidr fyddar, rhag gwrando ar lais y rhiniwr a'r swynwr cyfarwydd hwn.

Rhoddi y fath ddesgrifiad o hono ag a grybwyllai y cyfaill rhag-grybwylledig, pan safai uwchben tyrfa cymmanfa neu gyfarfod, sydd orchwyl pell uwchlaw fy ngallu i. Byddai yn hawdd i'r rhai cyfarwydd ag ef, frudiaw oddiwrth ei ddull a'i agwedd cyn pregethu, ar y cyfryw achlysuron, pa fodd y byddai arno pan elai ati. Pan fyddai yn llawn ysbryd pregethu, a'i feddwl yn cydio yn ei fater yn y rhag-olwg arno, nes y byddai ei enaid wedi chwyddo gan ddrych feddyliau, byddai ei wefusau a'i eiliau yn ymsymud ac yn crychu, gan gyfnewid eu dull a'u ffurf yn barhaus; byddai ei lygad megys yn chwyddo, ac yn mynych newid ei ddynodiant (expression), megys pe buasai drych-feddyliau ei enaid yn saethu allan trwyddo, y naill ar ol y llall, a phob un yn argraffu ei delw ei hun arno yn ei mynediad drwyddo, a'r naill yn dinystrio gwaith y llall, mor gynted ag y gorphenai ef. Edrychai weithiau yn hynod o absennol oddiwrtho ei hun, fel un wedi llwyr soddi, o ran ei feddwl, i ryw fater, pan orphenai yr hwn a bregethai o'i flaen. Cyfodai i fynu mewn agwedd a dull a ddangosai bod ei holl deimladau wedi eu hadsefydlu, a bod y gwaith ag oedd yn myned yn mlaen yn y peiriant mewnol yn awr wedi sefyll, i'r dyben i'w ail osod i droi yn rheolaidd, er bwrw allan ei gynnyrch i'r cyhoedd. Wedi darllen ei destun, yn lled afler yn gyffredin, a rhagymadroddi yn fyr, fel y crybwyllwyd, cydiai yn ei fater, a dosbarthai ef yn gryno ac yn fyr, a dechreuai ei osod allan a'i egluro mewn trefn, gan gadw perffaith lywodraeth ar ei