yn brif wrthddrych ei ymgais, wrth ddarllen a myfyrio yr ysgrythyrau, i chwilio pa egwyddorion a ddysgai y rhan dan sylw, neu os na byddai egwyddor neu egwyddorion yn cael eu gosod i lawr ynddo, pa egwyddor neu egwyddorion fyddent yn cael eu hegluro a'u hesbonio; ac fel hyn yr oedd, debygwn i, yn myned i mewn i enaid yr ysgrythyrau yn chwilio eu cymalau a'u mêr—yn barnu meddyliau a bwriadau calon gair Duw; oblegid enaid y Bibl yw ei egwyddorion. Nid ymddangosai fel un cydnabyddus iawn â geiriau y Bibl; ychydig o ranau o hono a allai adrodd yn gywir allan o'i gof, ac etto, soniech am unrhyw ran neu ymadroddion o'r Bibl wrtho, yr oedd yn gwybod am danynt, ac wedi sylwi arnynt, fel yr oedd ysbryd "cyfraith gwirionedd" ar ei wefus, os na fyddai ffurf yr ymadroddion ar ei gof. Felly gellir dywedyd ei fod yn ysgrythyrwr mawr mewn gwirionedd. Yr oedd ganddo lawer o egwyddorion wedi eu casglu oddiwrth wahanol ranau o'r gwirionedd, drwy gydmaru ysgrythyr ag ysgrythyr; ac i bregethu yr egwyddorion hyny, cymmerai ryw destun fel arwyddair, gan hysbysu ei wrandawyr, mai nid ei amcan y pryd hwnw fyddai pregethu gwir feddwl y cyfryw destun, ond mai cymmeryd ei fenthyg y byddai i osod allan y mater a fwriadai ei drin. Beiai rhai arno am hyn; ond yr wyf yn meddwl gellid dangos fod Crist ei hun, a'i apostolion, yn arfer gwneyd yr un modd rai gweithiau. Ei ddiffyg mwyaf, ac o herwydd yr hyn y cwynai yn fynych, ydoedd na allasai adrodd y rhanau hyny o'r ysgrythyr a fyddent yn dal perthynas â'i fater, oddiar ei gof, pan yn pregethu, yr hyn a'i gosodai dan yr anghenrheidrwydd i droi atynt a'u darllen. Byddai y drafferth hon yn ei daflu allan o hwyl a thymher traddodi yn aml, ac yn lleihau yr effeithiau ar y gwrandawyr dros yspaid yr amserau hyny o'i bregeth. Yr oedd mor adnabyddus a theimladwy o'i ddiffyg hwn, fel na chynnygai byth yn mron i ddyfynu adnod heb droi ati. Diau fod dau fath o ysgrythyrwyr: y cyntaf a ellid eu galw yn ysgrythyrwyr arwynebol, sef rhai cydnabyddus ag ymadroddion y Bibl; y maent fel mynegeir yn rhwydd, a pharod, a chyfarwydd â'r geiriau, yn gallu eu hadrodd yn gywir a digoll; ond dyna yn mron y cwbl sydd ganddynt; y maent heb erioed edrych i mewn i ystyr a meddwl yr ysgrythyr, ond wedi ymfoddloni ar y wybodaeth arwynebol o'i hymadroddion yn unig. Y lleill ydynt yn fwy o fyfyrwyr meddwl y gair nag ydynt o gofiaduron ei eiriau; gan y blaenaf Y
Tudalen:Cofiant y Diweddar Barch W Williams o'r Wern.djvu/77
Gwedd