ohono; yn neilltuol yn magu praffter a'i cymhwysa i fod fel cedrwydden Libanus mewn cylchfyd gwell yn ol llaw, nid fel y" grug yn yr anialwch." A hyn yw hanes Adams. Eto fe weddai inni gofio iddo ef fod yn ffodus yn ei gylchfyd agosaf oll, a'r un pwysicaf i fywyd ieuanc yn ei gychwyniad allan, sef yr un teuluaidd. Ar ochr etifeddeg, cafodd ef ei gynysgaeth o dueddiadau iach a chynheddfau meddyliol cryf oddiwrth ei dad a'i fam; ond heblaw hyn, cafodd ganddynt, ac ynddynt, yr help goreu i osod i lawr sylfeini cymeriad moesol uchel, ac anogaeth i ragori mewn dysg, a llên, a chrefydd.
Ar garreg fedd ei fam gosododd y llinellau:
"Diddig garedig ydoedd,
Man i serch ei mynwes oedd."
Disgrifiad cywir ohoni medd y rhai a'i hadwaenai, ond y dylesid ychwanegu ei bod yn eithriadol lanwaith ac yn dra hyddysg yn helyntion yr ardal. Siaredir yn fychanus glec "pan yw'n cynnwys elfen o falais ac enllib, ond pan yw'n rhydd o'r drwg hwn, nid yw ond y ddawn y sydd y tu cefn i'r newyddiadur; ffurf ar y cywreinrwydd y sydd y tu ol i bob awydd am wybod. Diau i'w serchowgrwydd a'i glanweithdra hi, beth bynnag am ei diddordeb mewn hanes, adael argraff ar ysbryd ei phlant. Ond y mae tri hen gyfaill Adams yn unfryd yn y farn ei fod yn feddyliol ac yn foesol, os nad yn serchiadol, yn fwy dyledus i'w dad na neb arall yn y cyfnod bore hwnnw yn ei hanes. Ymddengys fod John Adams yn ddyn eithriadol ei gynheddfau moesol a meddyliol. Ffurfiai'r cyfuniad hwnnw o wreiddioldeb a chryfder, o ddoethineb ymarferol a gwybodaeth gyffredinol, a'i gwnâi yn fath o oracl yn y pentref. Ef, yn ei bwysau ei hun, heb na chanfas na gwobr, fuasai'n faer y lle petasai swydd felly mewn bod. Cred y tri uchod yw ei fod yn gryfach ei