Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sefyll, ac yn troi yn ol, ond o'r diwedd cyrhaeddodd gapel Heol-y-felin; ond er ei ofid, yr oedd y drws wedi ei gau, ac nid oedd digon o nerth yn ei fraich yntau ar y pryd i godi y clicied, ac felly trodd yn ei ol; ond cyn gadael y lle, pwysodd ei ben ar y mur gerllaw, fel un ar ddiffygio, ac yn yr adeg daeth Mary Powel yn mlaen, yr hon oedd gyda chrefydd er ys blynyddau; adnabu hi yn union glefyd y dyeithr, ac ymafaelodd yn ei law, gan ei arwain yn dirion at y brodyr tufewn, y rhai pan welsant, a lawenychasant â llawenydd mawr dros ben, am weled gras Duw yn gweithio ar feddwl un yn ychwaneg.

Yr oedd John Williams yn gwrando y Parch. D. Williams, a gwelwyd ef yn wylo dagrau fel arfer yno, ond ni roddodd ef ufudd-dod i'r alwad, ond caledodd yn ei bechod, nes o'r diwedd iddo fyned yn ddigon caled i wrando y doniau goreu heb wylo dim, ac fel hyn y bu farw. Cyfaddefodd cyn ei farw ei fod yn teimlo ei hun mor galed a'r gareg. Llawer un o hen wrandawyr efengyl sydd yn ymrithio o flaen ein llygaid wrth ysgrifenu y llinellau hyn, rhai y gwelwyd eu llygaid yn ffynonau o ddagrau, ond yn awr y maent wedi sychu. Y maent yn nes i fyd arall, ond yn llawer mwy difater.

Os achubir y rhai yma, fel yr ydym yn gobeithio y gwneir, dygir hyny oddiamgylch drwy edifeirwch cryf a dagrau, o herwydd mae eu pechod yn fawr iawn. Hoffem yn fawr weled gras Duw yn cael ei ogoneddu yn achubiaeth y rhai hyn eto cyn eu marw; ond bydd yn rhy bell yn fuan, gan hyny, O! Arglwydd, tyred yn awr. Derbyniwyd Isaac M. Harry yn gyflawn aelod pan yn llawn pump-ar-hugain oed, gan y Parch. Rees Davies, gweinidog Heol-y-felin ar y pryd. Wedi ei dderbyn yn aelod, nid eisteddodd i lawr. Gwelsom rai yn ffyddlon iawn am wythnosau eu prawf, fel y dywedir; ond wedi eu derbyn yn gyflawn aelodau, meddylient fod pob peth yn iawn, y frwydr trosodd, y fuddygoliaeth wedi ei henill, y goron yn eu haros, y gwaith wedi ei orphen, a'r nef wedi ei sicrhau ; ond nid un felly oedd Mr. Harries; na, aeth i'r winllan fel gweithiwr, ac nid fel segurwr, a theimlodd yr eglwys yn fuan ei bod wedi cael caffaeliad gan Dduw ynddo. Yn mhen rhyw ychydig flynyddau, dechreuodd rhai o'r bobl graffus yn