Tudalen:Cofiant y Parch Isaac Morgan Harry.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
Parch. Rees Davies ........ £10/0/0
Mr. Edward James ........ £10/0/0
" Edmund James ........ £10/0/0
" David Francis ........ £5/0/0
Mrs. Blanch Baker ........ £5/0/0
Mr. David Williams... ........ £5/0/0
" D. Turberville ........ £2/2/0
" J. Rees, Llanvabon ........ £2/2/0
" I. Morgan Harry ........ £6/0/0
" T. Harries, Mardy ........ £2/2/0
Casgliad o'r Rhydri ........ £1/4/0
" " New Inn ........ £10/0/0

Yr oll a gasglwyd erbyn yr agoriad oedd £88 17s. 10c. Costiodd y capel £230, ac felly talwyd yn agos yr haner erbyn dydd yr agoriad, yr hyn oedd yn weithio go dda, wrth ystyried sefyllfa yr achos yn y lle ar y pryd.

Agorwyd y capel newydd ar y drydedd o Dachwedd, 1826. Y gweinidogion a weinyddasant ar yr achlysur oeddynt y Parchedigion D. Jones, Llanharran; W. James, Caerdydd; H. Jones, Llaneurwg, (M.C.); E. Jones, Casbach, (B.); D. Davies, New Inn; ac E. Jones, Pontypwl. Corphorwyd yr eglwys yn y lle ar Sabboth canlynol. Nid oeddynt eto yn ddim ond dau. Wedi i'r Arglwydd gael lle i aros, daeth yno at y brawd a'r chwaer, ac nid hir y buont heb gynyddu i unarddeg, yr hyn oedd yn rhif mawr yn eu golwg. Teimlwyd yn awr fod eisieu bugail i ofalu am y praidd bychan, ac nid oedd neb yn fwy cymhwys yn eu golwg na Mr. Harries; o ganlyniad, cafodd alwad ganddynt, a chydsyniodd yntau â'u cais; penodwyd dydd y sefydliad, a daeth y brodyr yn nghyd. Cymerodd hyn le ar y 18fed o Fehefin, 1829. Bu y rhai canlynol yn cymeryd rhan yn ngwaith y dydd :-y Parchedigion G. Hughes, Groeswen; D. Jones, Taihirion; T. Harries, Mynyddislwyn; E. Jones, Tabernacl, Casnewydd; Jenkin Lewis, Časnewydd; a D. Davies, New Inn; E. Rowlands, Pontypwl; W. Watkins, Pontypwl; a Rees Davies, Heol-y-felin. Wele ef yn awr yn gyflawn yn ei swydd fel gweinidog i Iesu Grist, ac nid yw heb deimlo fod rhwymau newydd arno yn ei sefyllfa newydd. Yr oedd erbyn hyn wedi symud i fyw i'r Heol-las—ffarm fechan yn agos i'r capel. Bu yno am flynyddoedd lawer; ac